Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 34 x Gweithdai 2 Awr |
Tiwtorial | 10 x Tiwtorial 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad unigol | 50% |
Asesiad Semester | Hyd at 5 aseiniad ymarferol bach | 40% |
Asesiad Semester | Sesiynau tiwtorial: cyfranogaeth weithredol | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Un aseiniad | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Disgrifio ac esbonio'r prif wahaniaethau rhwng rhaglennu gweithdrefnol a rhaglennu gwrthrych-gyfeiriadol
2. Dod o hyd i wrthrychau, dosbarthau a dulliau ar sail datganiad problem, a thrwy hynny ddangos y gallu i gymhwyso cysyniadau haniaethau ac amgau.
3. Mapio diagramau achos-defnyddio, dosbarth a dilyniant UML ar go^d gwrthrych-gyfeiriadol.
4. Datblygu rhaglen gwrthrych-gyfeiriadol hanfodol sy'n cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr graffigol, a thrwy hynny ddangos y gallu i ddelio a^ rhaglennu syml a yrrir gan ddigwyddiadau.
5. Dangos y gallu i gymhwyso cysyniadau cyfansoddiad, etifeddiad ac amryffurfedd.
6. Dangos, mewn co^d gwrthrych-gyfeiriadol, sut i ymdrin ag amodau gwallau.
7. Dangos, mewn co^d gwrthrych-gyfeiriadol, sut i storio ac adalw data i ac o ffeiliau
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar CS12020 Introduction to Programming. Yn benodol, bydd yn edrych y defnydd o'r patrwm gwrthrych-egyfeiriado, a'i ymgorffori yn iaith raglennu Java. Bydd nodiant UML (Iaith Fodelu Unedig) yn cael eu diffinio a'u defnyddio fel bo'n briodol. Mae'n darparu sylfaen ar gyfer modiwlau Rhan 2 sy'n defnyddio ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol, megis CS21120 - Data Structures and Algorithms, a CS22120 - The Software Development Life Cycle.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar CS12020 Introduction to Programming. Bydd yn edrych ar y modd y caiff y patrwm gwrthrych-gyfeiriadol ei ddefnyddio a’i ymgorffori yn iaith raglennu Java. Bydd yn cael ei ddysgu ar y cyd ag CS10720 – Problems and Solutions, a bydd yn diffinio ac yn defnyddio UML wrth fodelu gofynion a dylunio.
Cynnwys
Wythnos 1 - Gweithdai rhagarweiniol i roi blas o'r gwahanol bynciau a drafodir yn ystod y modiwl: Y syniad o ddosbarth a gwrthrych. Storio data mewn newidynnau achlysuron. Dulliau. Co^d beit (bytecode) a Pheiriant Rhithwir Java. Rhaglenni sy'n rhedeg o offeryn amgylchedd datblygu integredig. Adolygu cysyniadau o semester un a ddefnyddir yn Java: newidynnau, profion amodol, dolenni.
Wythnos 2 - Cysyniadau sylfaenol. Archwilio gwrthrychau a dosbarthau. Diagram dosbarth UML. Newidynnau achlysuron, dulliau a pharamedrau, diagramau gwrthrych. Y berthynas rhwng dosbarthiadau ar modd y'u cynrychiolir mewn diagramau dosbarth. Mapio rhaglen weithredol syml o semester un i raglen Java.
Wythnos 3 - Adolygu cysyniadau sylfaenol. Darllen o'r allweddell. Cyfeiriadau nwl. Rhedeg rhaglenni o'r llinell orchymyn. Sylwadau Javadoc. Confensiynau enwi. Tiwtorial ar ddefnyddio'r dechneg Dosbarthau, Cyfrifoldebau a Chydweithredu.
Wythnos 4 - Mathau a chydraddoldeb. Chwilio, llwytho a chadw. Darllen o ffeiliau, ac ysgrifennu i ffeiliau. Iteriadau dros Gasgliadau Java, araeau Java, diagramau dilyniant UML.
Wythnos 5 - Addaswyr mynediad. Pecynnau a ffeiliau JAR. Yr addasydd sefydlog. Bwrw golwg arall ar haniaethu ac amgau. Cydweddu'r dyluniad a'r modd mae'n cael ei weithredu. Ro^l diagramau achos-defnyddio a'u perthynas a^ diagramau dosbarth a sut maent yn cael eu rhoi ar waith.
Wythnosau 7 ac 8 - Canolbwyntio ar etifeddiad, amryffurfedd, rhyngwynebau a dosbarthiadau haniaethol. Trosreoli'r dull hafalu. Dosbarthiadau o eithriadau.
Wythnosau 9 a 10 - Rhyngwynebau defnyddiwr graffigol. Rhaglennu a yrrir gan ddigwyddiadau. Gwahanu cyfrannau.
Wythnos 11 - adolygu
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu mewn ystyr technegol drwy ddiagramau UML |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Darperir rhagor o wybodaeth ynghylch beth mae peiriannwyr meddalwedd yn ei wneud |
Datrys Problemau | Datrys sgiliau dylunio a chodio |
Gwaith Tim | Sesiynau tiwtorial |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | O'r adborth a ddarperir gan staff a chyd-fyfyrwyr trwy'r drefn asesu gan gymheiriaid |
Rhifedd | Natur y pwnc |
Sgiliau pwnc penodol | Diagramau UML, sgiliau datblygu co^d, defnyddio amgylcheddau datblygu integredig. |
Sgiliau ymchwil | Sgiliau cyfrifiadura sylfaenol |
Technoleg Gwybodaeth | Natur y pwnc |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4