Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG25620
Teitl y Modiwl
Dulliau Ymchwil
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 30 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 1  (20 munud)  4%
Asesiad Semester Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 2  (20 munud)  4%
Asesiad Semester Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 3  (20 munud)  4%
Asesiad Semester Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 4  (20 munud)  4%
Asesiad Semester Ymarferiad ystadegaeth ar-lein 5  (20 munud)  4%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig i nodi ffynonellau ymchwil  (500 gair)  10%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig i nodi a chyfosod gwybodaeth ymchwil  (1500 gair)  30%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ar-lein  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ar-lein.  Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl.  40%
Asesiad Ailsefyll (2500 gair)  Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwil mewn ystod eang o yrfaoedd.

2. Chwilio ac adolygu’r lenyddiaeth wyddonol er mwyn adnabod cwestiynau ymchwil dilys.

3. Adnabod dulliau dadansoddi priodol ar gyfer gwahanol fathau o ymchwil.

4. Cynllunio arbrofion sy’n ddilys yn ystadegol.

5. Adnabod a mesur yn erbyn ffactorau sy'n drysu wrth gynllunio ymchwil.

6. Dangos dealltwriaeth o’r pynciau moesegol sydd ynghlwm wrth ymchwil.

7. Dadansoddi data gan ddefnyddio ystod o dechnegau meintiol ac ansoddol.

8. Dehongli canlyniadau dehongli data a chymhwyso gwybodaeth ystadegol wrth werthuso archwiliadau ymchwil.

Disgrifiad cryno

Bydd y cwrs yn trafod egwyddorion ac arferion ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol dadansoddi data, ynghyd a dealltwriaeth o gynllunio ymchwil da. Bydd y dull cyflwyno yn dibynnu'n gryf ar e-ddysgu a'r myfyriwr yn ganolog iddo, gyda chymorth gweithdai cyfrifiadurol. Trwy e-ddysgu, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol, chwilio am lenyddiaeth a chynllunio ymchwil. Bydd y defnydd o fideos tiwtorial sy'r benodol i'r pwnc yn sicrhau bod y myfyrwyr yn derbyn enghreifftiau esboniadol sy'n uniongyrchol berthnasol i'w maes pwnc arbennig.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a defnyddio ymchwil mewn gyrfaoedd ar lefel raddedig. Bydd Rhan 1 yn edrych ar y cysylltiadau rhwng ymchwil mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd graddedig. Trefnir cyflwyniadau gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd, cyflogwyr ac ymchwilwyr. Bydd Rhan 2 yn rhoi sylw i gynllunio arbrofion, dulliau ystadegol meintiol ac ansoddol o ddadansoddi data ynghyd â gwerthuso ymchwil cyfredol a gyhoeddir mewn ystod o ffynonellau gwahanol. Trefnir ymweliadau maes i wahanol safleoedd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth a thu hwnt, lle y gellir gweld ymchwil ar waith sy’n berthnasol i radd y myfyriwr.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu mynegi eu hunain yn briodol ym mhob asesiad. Darperir adborth yn yr aseiniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn meithrin hyder yn eu gallu i gloriannu casgliadau ymchwil a’u defnyddio yn eu gyrfaoedd dewisol.
Datrys Problemau Bydd angen i’r myfyrwyr benderfynu ar y cynllun ymchwil a’r dulliau dadansoddi mwyaf addas i’w defnyddio gyda gwahanol fathau o ddata. Darperir adborth yn yr aseiniadau.
Gwaith Tim Nid yw’n elfen bwysig o’r modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Y tu allan i’r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i’r myfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli eu hamser a chwrdd â’r terfynau amser ar gyfer yr aseiniadau a’r arholiad.
Rhifedd Bydd bron pob agwedd o’r modiwl yn gofyn am drin data a chymhwyso ystadegau. Darperir adborth ar hyn yn yr ymarferion ar-lein.
Sgiliau pwnc penodol Trwy ganiatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar faes ymchwil sydd o ddiddordeb iddynt bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n benodol i’w pwnc.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i’r myfyrwyr ganfod a chrynhoi swm sylweddol o wybodaeth heb gyfarwyddyd staff i gwblhau’r asesiadau. Darperir adborth yn yr aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiol gronfeydd data o gyhoeddiadau gwyddonol. Bydd angen defnyddio gwahanol becynnau meddalwedd i gyflwyno’r aseiniadau yn y modd cywir.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5