Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG13510
Teitl y Modiwl
Ecoleg
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 1 Awr
Gweithdy 2 x Gweithdai 1 Awr
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio ffenoleg bychan  (1200 o eiriau) a dau brawf (adnabod blagur coed a chaneuon adar)  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Papur cwestiynau aml-ddewis  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos gwybodaeth o sut mae ecosystemau a’i chydrannau yn gweithredu.

2. Adnabod caneuon rhywogaethau adar mudol a phreswyl yng nghanolbarth Cymru yn ystod y gwanwyn.

3. Adnabod rhywogaethau cyffredin o goed ar sail nodweddion eu blagur a’i dail.

4. Casglu nodiadau ar ddatblygiad ffenolegol planhigion ac anifeiliaid lleol i gymharu ymateb rhywogaethau i dywydd a’r amgylchedd.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yma yn gyflwyniad eang a chyfredol i’r pwnc ecoleg. Mae’n cynnwys elfennau sylfaenol ag amserol ac yn ystyried heriau i’r dyfodol megis ymateb i newid hinsawdd a chadwraeth o fioamrywiaeth. Byddwn yn edrych ar sut mae systemau yn gweithredu ond hefyd ar sut mae rhywogaethau wedi esblygu i fyw o fewn y systemau yma. Bydd awtoecoleg rhywogaethau yn cael eu hystyried tra hefyd yn amlygu rhyngweithiadau gyda phobl. Fe fydd y modiwl yma yn dysgu sgiliau gwerthfawr i adnabod a deall yn y maes a all danategu gyrfaoedd mewn arolygu neu reolaeth ecolegol.

Cynnwys

Mae’r modiwl yma yn dechrau wrth ddarparu cyd-destun a chyflwyniad i’r pweru o ecosystemau gan roi sylw penodol i systemau yn seiliedig ar olau’r haul a phlanhigion gwyrdd a’r rheini yn seiliedig ar ddeunydd organig marw. Byddwn yn ystyried sut mae pobol wedi newid y rhain yn ystod yr anthroposen a sut y mae hyn wedi cael effaith ar ein hinsawdd.
Yr ecosystem yw’r uned astudio sylfaenol ar gyfer ecoleg a dyma yw’r lefel orau i astudio nifer o berthnasau pwysig rhwng organebau, boed yn blanhigion neu anifeiliaid. Yn gyntaf mae ymdriniaeth gyfannol yn cael ei defnyddio wrth ddadansoddi ecosystem syml yn y twndra Arctig a fydd yn dangos sut mae ein dealltwriaeth o’r system wedi esblygu ac i ddisgrifio’r perthnasau sylfaenol sydd yn bodoli rhwng y gwahanol gydrannau. Er hynny, mae’n orfodol i osod y cysyniad o’r ecosystem mewn hierarchaeth sydd yn ystyried trefniant ecolegol o lefel yr unigolyn i’r biosffer.

Mae amrediad o ffactorau anfiotig yn cael eu hadolygu a’u hystyried mewn perthynas â ffactorau biotig gan gynnwys llysysydda, ysglyfaethu a chystadleuaeth. Ysglyfaethu yw un o’r ffactorau sydd yn cyfyngu niferoedd mewn poblogaethau rhag datblygu tyfiant esbonyddol. Yn ogystal â hyn, mae gan gystadleuaeth am adnoddau effaith yr un mor bwysig. Yn ychwanegol i hyn mae astudio defnydd adnoddau gan rywogaethau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, sydd yn gyffredinol yn cael eu diffinio fel y gilfach. Er hynny, fe fydd rhywogaethau fel arfer yn arddangos addasiadau penodol i sefyllfaoedd penodol o fewn eu gwasgariad. Fe fydd esiamplau o amrywiaethau ecotypig o’r fath yn cael eu trafod.

Er hynny, gellir deall rhai agweddau o ecoleg rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid yn well drwy astudio eu awtoecoleg. Bydd rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn cael eu defnyddio i arddangos y cysyniad o awtoecoleg. Mae’r rhain yn cael eu hintegreiddio ar hyd y gyfres o bynciau a fydd yn diwedd gyda’r angen i werthfawrogi a chadw bioamrywiaeth fel adnodd i genedlaethau’r dyfodol.
Fe fydd y gweithgareddau ymarferol yn datblygu sgiliau adnabod coed ac adar y bydd y myfyrwyr yn eu defnyddio i greu portffolio bychan yn nodi newidiadau mewn ffenoleg fflora a ffawna o’r gaeaf i’r gwanwyn. Fe fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth fiolegol amserol am blanhigion ac anifeiliaid y tywydd a’r amgylchedd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd angen sgiliau cyfathrebu gwyddonol da er mwyn dogfennu a thrafod ffenoleg yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe fydd perthnasedd sgiliau adnabod rhywogaethau o fewn y modiwl i yrfaoedd posib yn cael eu hamlygu.
Datrys Problemau Fe fydd y cydrannau ymarferol yn golygu defnyddio sgiliau adnabod i ddilyn y broses o ffenoleg ac i ymateb i’r problemau a roddir.
Gwaith Tim Gall myfyrwyr weithio mewn grwpiau er mwyn casglu data o’r maes.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd adborth yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol er mwyn gwella sgiliau ymchwil ag adnabod rhywogaethau.
Rhifedd Casglu gwybodaeth meintiol ac ansoddol o’r maes ar gyfer yr aseiniad portffolio.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn galw i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau adnabod rhywogaethau a sgiliau ymarferol yn y maes sydd yn hanfodol ar gyfer o yrfaoedd amgylcheddol.
Sgiliau ymchwil Sgiliau ymchwil yn gysylltiedig gyda chasglu a phrosesu gwybodaeth briodol o’r llenyddiaeth.
Technoleg Gwybodaeth Yn cael ei ddefnyddio er mwyn ymchwilio elfennau ar gyfer cefnogi adnoddau addysgu a gweithgareddau ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4