Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 6 x Seminarau 1 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours Arholiad dwy awr o hyd a welwyd ymlaen llaw Ni chaiff ymgeiswyr ddod A llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 100% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad dwy awr o hyd a welwyd yn mlaen llaw Ni chaiff ymgeiswyr ddod A llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Gwerthuso a dadansoddi'n feirniadol rhychwant a phwrpas cyfraith troseddau, gan gyfeirio at ddatblygiad hanesyddol, problemau cyfredol, theori droseddegol a phosibiliadau diwygio;
2. Nodi ac egluro egwyddorion sylfaenol cyfraith troseddau a dadansoddi'n feirniadol eu perthnasedd a'r modd y'u defnyddir;
3. Nodi a dadansoddi'r elfennau sy'n ffurfio sail atebolrwydd troseddol, sef yr elfen ymddygiadol a'r elfen feddyliol;
4. Nodi ac egluro elfennau cyfansoddol perthnasol rhai troseddau ac amddiffyniadau o bwys, a'r gallu i'w cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol syml i ddatrys problemau;
5. Ystyried sut y mae cyfraith troseddau sylfaenol yn cyfrannu at theori droseddegol ac i'r gwrthwyneb;
6. Llunio dadleuon argyhoeddiadol a grymus ar sail y cyfreithiau a'r theoriau troseddegol perthnasol.
Brief description
Bydd y cwrs yn nodi'r egwyddorion cyffredinol a rhai o'r prif amddiffyniadau ac yna'n astudio'r troseddau difrifol penodol pwysicaf i alluogi myfyrwyr i weld sut y'u cymhwysir. Gosodir y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brawf o fai neu fwriad troseddol? A fernir bod person yn "bwriadu" canlyniad os gwyddai ei fod yn sgil effaith anochel ei ymddygiad bwriadedig? A all anwybodaeth o'r gyfraith gyfrif fel amddiffyniad? Beth petai person yn bwriadu cyflawni trosedd benodol, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei gyflawni? Bydd hyn yn gyfle i fyfyrwyr ystyried rhai materion yn ymwneud â dehongliad statudol, a bydd gofyn iddynt astudio elfennau o gyfraith achosion.
Bydd gofyn i'r myfyrwyr gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, yn ogystal â cheisio ei ddeall. Yna, ystyrir y wybodaeth gyfreithiol hon yn ei chyd-destun troseddegol fel bo myfyrwyr yn cael dealltwriaeth ddyfnach ynglŷn â sut mae'r ddau yn rhyngwynebu ac yn cyfuno neu'n gwrthdaro.
Content
- Cymdeithaseg a chyfraith troseddau - diffiniadau Trosedd Gwyredd Semeoleg
- Dadansoddi Ymddygiad Troseddol
- Gweithred droseddol (Actus Reus)
- Gwirfoddolrwydd ac Awtomatiaeth
- Atebolrwydd am anweithiau
- Achosiaeth
- Drwgamcan (Mens rea) a Bwriad
- Byrbwylltra
- Atebolrwydd Caeth
- Cyflwyniad i Lofruddiaeth
- Dynladdiad Ffurfiannol
- Dynladdiad trwy Esgeuluster Garw
- Colli Rheolaeth
- Cyfrifoldeb Lleihaëdig
- Troseddau Rhywiol I
- Troseddau Rhywiol II
- Rhyngwyneb y Gyfraith a Throseddeg
- Cymdeithaseg a Chyfraith Troseddau - cwestiynu cyfiawnder
- Seicoleg - rhyngwyneb gydag ewyllys rydd
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Annog a meithrin sgiliau cyfathrebu llafar mewn seminarau a darlithoedd drwy ddysgu rhyngweithiol. Ymarfer sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy gymryd nodiadau mewn darlithoedd ac wrth astudio'n breifat, a thrwy gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn ffurfiol mewn aseiniadau ac arholiadau. |
Improving own Learning and Performance | Annog myfyrwyr i ymarfer a phrofi eu gallu a'r hyn y maent yn ei ddysgu i ddefnyddio a rhyngweithio â'r deunyddiau drwy ddysgu rhyngweithiol mewn darlithoedd ac mewn seminarau. Byddant hefyd yn cael cefnogaeth i ddysgu sut a phryd i ddefnyddio technegau dadansoddi beirniadol a chyd-destunol. |
Information Technology | Er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a'r arholiad bydd angen i'r myfyrwyr ddefnyddio cronfeydd data'r llyfrgell a chronfeydd data eraill. Cyfeirir myfyrwyr at gyfeiriadau URL defnyddiol ac fe'u hanogir i ddod o hyd i wybodaeth drwy ddefnyddio dulliau electronig. |
Personal Development and Career planning | Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon. |
Problem solving | Y gallu i gymhwyso gwybodaeth am reolau cyfreithiol i sefyllfaoedd datrys-problemau. |
Research skills | Y gallu i ganfod, darllen, dehongli a deall amrywiaeth eang o destunau cyfreithiol a throseddegol |
Subject Specific Skills | Datrys problemau a chymhwyso rheolau cyfreithiol i theori droseddegol ac i'r gwrthwyneb. |
Team work | Mewn seminarau, gofynnir i fyfyrwyr gyflawni tasgau mewn grwpiau. |
Notes
This module is at CQFW Level 4