Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
RG20420
Teitl y Modiwl
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Taith Maes 1 x Taith Faes 2 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 2 Awr
Taith Maes 2 x Teithiau Maes 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad.  Wedi ei ysgrifennu mewn arddull cylchgrawn gwyddonol poblogaidd.  50%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifio'r broses ecolegol sy'n digwydd mewn systemau amaethyddol.

Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.

Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.

Gwerthuso effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.

Trafod y cysyniad o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen i ddeall yr agweddau ecolegol cymwysedig ar systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl yma yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Mae'r modiwl wedi'i lunio i dynnu sylw at faterion sy'n ymwneud a'r gadwyn fwyd ddynol gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaladwyedd, effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol a dyframaethyddol, datblygu polisi amaethyddol, pryder y cyhoedd am gynhyrchu bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a'r galwadau gan gwsmeriaid a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Cynnwys

1. Egluro'r broses ecolegol sy'n digwydd mewn systemau amaethyddol.
2. Disgrifio diwydiant cyflenwi bwyd y DU a materion allweddol ynghylch pryder y cyhoedd am y gadwyn fwyd.
3. Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.
4. Datblygu gwerthfawrogiad o faterion polisi bwyd a globaleiddio.
5. Datblygu dealltwriaeth o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen mewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol
Technoleg Gwybodaeth Canfod gwybodaeth ar y Rhyngrwyd Cael gafael ar wybodaeth trwy gyfrwng system lyfrgell ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5