Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
GC11820
Module Title
Y Celtiaid: Etifeddiaeth Ddadleuol
Academic Year
2017/2018
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Mutually Exclusive
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminar 1 x 1 Hour Seminar
Lecture 9 x 1 Hour Lectures
Lecture 10 x 1 Hour Lectures
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment traethawd 2,000 o eiriau  40%
Semester Assessment cyflwyniad 10 munud  10%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad 2 awr  50%
Supplementary Assessment traethawd 2,000 o eiriau  40%
Supplementary Assessment cylwyniad 10 munud  10%
Supplementary Exam 2 Hours   arholiad 2 awr  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

gwahaniaethu rhwng y ffyrdd y defnyddir y term ‘Celtaidd’ mewn nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys ieithyddiaeth, archeoleg a hanes

adnabod datblygiad cronolegol y term ‘Celtaidd’ ers ei ddigwyddiad cyntaf yn y ffynonellau Clasurol

adnabod y prif gysyniadau sy’n amgylchynu’r bobl a adwaenir fel y Celtiaid, a gallu pwyso a mesur y dystiolaeth sy’n ymwneud â hwy yn feirniadol

trafod nifer o safbwyntiau theoretig megis strwythuriaeth ac ôl-drefedigaetholaeth fel y maent yn berthnasol i’r cysyniad o ddiwylliant Celtaidd

Brief description

ae’r modiwl hwn yn dadansoddi a herio cysyniadau am yr hen Geltiaid a’u perthnasedd yn y byd modern. Mae’n rhoi fframwaith deallusol i ystyried pob math o gwestiynau ym maes Astudiaethau Celtaidd Dadansoddir y term ‘Celt’, a gofynnir y cwestiwn ‘Pwy oedd yr hen Geltiaid?’ Pa fathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio i ateb hyn, a beth yw’r problemau? A yw’r Gwyddelod a’r Cymry yn ‘Geltiaid’? Sut y datblygodd syniadau modern am y Celtiaid, a sut y maent wedi’u (camd)defnyddio? Trafodir y cwestiwn o barhad Celtaidd? Dadansoddir disgrifiadau o siaradwyr ieithoedd Celtaidd dros y canrifoedd. Yn aogystal, trafodir crefydd Geltaidd baganaidd a sefydliadau ‘Celtaidd’ honedig megis derwyddon a beirdd.

Content

• Yr ieithoedd Celtaidd I: Rhagymadrodd
• Yr ieithoedd Celtaidd II: Pryd a ble cawsant eu siarad?
• Cwestiynu Celtigrwydd a ‘Cheltosgeptigiaeth’
• Problemau Celtigrwydd: tystiolaeth iaith, archeoleg, hanes a geneteg
• Brythoniaid, Gwyddelod a Cheltiaid
• Ailddarganfod y berthynas rhwng yr ieithoedd Celtaidd
• ‘Creu’ Celtigrwydd I: etifeddiaeth yr awduron Clasurol
• ‘Creu’ Celtigrwydd II: Rhamantiaeth
• Yr Hen Geltiaid yn eu geiriau eu hun
• Y Brythoniaid a’r Gwyddelod yn eu geiriau eu hun
• Parhad Celtaidd I: fframwaith theoretig
• Parhad Celtaidd II: astudiaethau achos
• Sefydliadau Celtaidd I: crefydd Geltaidd baganaidd
• Sefydliadau Celtaidd II: derwyddon
• Sefydliadau Celtaidd III: beirdd
• Crynodeb ac adolygiad

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Dim yn berthnasol
Communication Ar bapur: mynegi yn glir syniadau a ddadansoddir mewn aseiniadau ysgrifenedig. Ar lafar: cyfrannu yn y dosbarth a thrafodaethau grŵp.
Improving own Learning and Performance Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriad yn ystod seminarau (neu gyflwyniad seminar); datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith arall.
Information Technology At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du
Personal Development and Career planning Dim yn berthnasol
Problem solving Trwy ymwneud yn feirniadol (ar lafar ac ar bapur) â chysyniadau deallusol.
Research skills Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp mewn darlithiau a seminarau. Hefyd trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol.
Subject Specific Skills Ymwneud â chysyniadau cysylltiedig â Cheltigrwydd
Team work Gweithio mewn grwpiau i baratoi cyflwyniadau

Notes

This module is at CQFW Level 4