Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol | 70% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eirau Traethodau: 2,000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dylai myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn fod yn gyfarwydd a^ rhai o brif fannau llenyddiaeth Gymraeg o'r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
2. Byddant yn gyfarwydd a^ rhai cysyniadau beirniadol wrth ymdrin a^ llenyddiaeth hanesyddol.
3. Byddant yn ymwybodol o rai o'r syniadau a'r symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd.
4. Gallant osod rhai darnau o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Arolwg beirniadol o hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r Oesoedd Canol hyd at Ddaniel Owen. Trafodir gweithiau unigol, gwahanol fathau o lenyddiaeth, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg a^ llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4