Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
RG23310
Teitl y Modiwl
Sgiliau Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
Taith Maes 1 x Taith Faes 3 Awr
Gweithdy 2 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad gwerthuso a chyflwyniad.  40%
Asesiad Semester Portffolio rheoli prosiect.  60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad gweithle/sefydliad/busnes

2. Asesu gwerth a rol y swydd a'i pherthnasedd i yrfa yn y dyfodol

3. Disgrifio, ar gyfer prosiectau mewn diwydiannau'r tir, eu mathau a'u nodweddion, strategaethau ar gyfer cynllunio, a chofnodi gweithgareddau

4. Cynllunio, trefnu a pharatoi cyllideb ar gyfer prosiect gwaith pwnc-benodol priodol.

5. Cyfathrebu drwy ddefnyddio cyfryngau priodol ar gyfer gwahanol nodau a chynulleidfaoedd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno nodweddion gwahanol fathau o brosiectau yn niwydiannau'r tir a sut i lunio cynlluniau prosiect gyda nodau, amcanion a chaffael adnoddau. Bydd yn datblygu strategaethau ar gyfer gweithgareddau cynllunio a chofnodi. Amlinellir sut i werthuso effeithiolrwydd galluoedd gwaith staff a rhoi ar waith raglenni gwaith gydag amcanion realistig i weithlu. Asesir y gwahanol fathau o gyfryngau cyfathrebu a'u defnydd ar gyfer gwahanol nodau a chynulleidfaoedd.

Cynnwys

Mathau o brosiect, nodau ac amcanion.
Caffael adnoddau a rheoli cyllideb.
Cynllunio gweithgareddau a chofnodi'r canlyniadau.
Rheoli staff a chynllunio amcanion y gweithlu.
Rol cyfathrebu a meithrin tim.
Mathau o gyfryngau a'u defnyddiau posibl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Gwneir hyn trwy’r aseiniadau
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd Ymarfer costio a chynllun technegol
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Gwneir hyn trwy’r aseiniadau
Technoleg Gwybodaeth Cyflwyno data mewn aseiniadau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5