Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 2 x Darlithoedd 1 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio. | 100% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Adfyfyrio'n fanwl ar brofiad mewn gweithle (Ffrwd 1)
2. Enwi cryfderau a gwendidau gan nodi strategaethau ar gyfer mynd i'r afael a'r ail (Ffrwd 1)
3. Cyfathrebu profiad mewn ffyrdd a ddisgwylir gan gyflogwyr (Ffrwd 1)
4. Cynllunio ar gyfer strategaeth gwella-gyrfa yn y dyfodol (Ffrwd 1)
5. Datblygu a chynnal portffolio ar gyfer adfyfyrio yn y dyfodol ar brofiadau gwaith ar ol i'r modiwl ddod i ben (Ffrwd 1)
1. Adfyfyrio'r fanwl ar brofiad mewn gweithle (Ffrwd 2)
2. Nodi nodweddion sy'r ofynnol ar gyfer mynd i yrfa benodol (Ffrwd 2)
3. Nodi strategaethau ar gyfer llwyddo yn y broses recriwtio a chyfweliad/dechrau busnes (Ffrwd 2)
4. Son yn llwyddiannus wrth gydfyfyrwyr am elfennau cyflogadwyedd datblygu gyrfa (Ffrwd 2)
5. Adfyfyrio ar ddatblygiad gyrfa yn y dyfodol (Ffrwd 2)
Disgrifiad cryno
Ffrwd 2: Bydd myfyrwyr sydd a phrofiad sylweddol o gyflogaeth ar lefel raddedig, neu sydd wedi sefydlu a rhedeg eu busnes eu hunain, neu sydd eisoes wedi cwblhau modiwl gwaith IBERS sy'n gysylltiedig a gradd (e.e. myfyrwyr sy'n trosglwyddo o gynlluniau sylfaen) yn adfyfyrio ar eu profiad yng nghyd-destun datblygu eu cyflogadwyedd gyda'r nod o gynhyrchu adnoddau cefnogol ar gyfer eu cydfyfyrwyr. Yn hytrach na'r profiad gwaith 50 awr a dyddiadur adfyfyriol, disgwylir i fyfyrwyr ffrwd 2 lunio dogfen briffio, wedi'i hanelu at eu cyd-fyfyrwyr, sef proffil o'u gyrfa yn canolbwyntio ar sgiliau, heriau a chyfleoedd. Yn ogystal, disgwylir i fyfyrwyr ffrwd 2 roi cyflwyniad byr 10 munud wedi'i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb, unwaith eto wedi'i anelu at eu cyd-fyfyrwyr. Bydd mynediad i ffrwd 2 yn amodol ar gymeradwyaeth staff ac yn dibynnu ar feini prawf cymhwyso llym.
Cynnwys
Mae cydlynwyr cynlluniau gradd yn rhydd i ddod o hyd i leoliadau gwaith sy'n gysylltiedig a gradd os ydynt yn teimlo bod angen hyn yn academaidd ac y gellir ei ddarparu ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n gwneud eu gradd. Cyfrifoldeb cydlynwyr y cynllun fydd hyn.
Ffrwd 1:
Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur adfyfyriol ar 50 awr cyntaf eu gwaith. Darperir pro-forma a disgwylir i fyfyrwyr wneud cofnod unwaith y diwrnod (neu tua cyfnod o 8 awr os yw'n rhan-amser). Cefnogir myfyrwyr gan adnoddau ar-lein a ddarperir ar Blackboard (fel pecynnau y gellir eu lawrlwytho / eu hargraffu ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd). Bydd y dyddiadur adfyfyriol yn rhan o'u portffolio.
Ar ol gwneud 50 awr o brofiad gwaith, bydd y myfyrwyr yn cwblhau cyfres o ymarferion sydd a'r nod o godi ymwybyddiaeth am y sgiliau a ddatblygwyd ganddynt, y ffordd y mae cyflogwyr yn ystyried y rhain a sut y gellir cyfleu'r hyn a gyflawnwyd ganddynt. Datblygir yr ymarferion mewn ymgynghoriad a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd.
Disgwylir i fyfyrwyr hefyd lunio portffolio yn cynnwys (yn ogystal a'r dyddiadur adfyfyriol):
a. tystiolaeth o'r cyfnod gweithio
b. archwiliad sgiliau cyflawn (yn seiliedig ar yr AGAPh presennol)
c. tystiolaeth o ymwneud a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blwyddyn 2
d. cynllun gweithredu CAMPUS/SMART sy'n nodi camau i'w cymryd ym mlwyddyn 3
e. CV sy'n cynnwys y profiad a gafwyd yn y lleoliad.
Bydd templedi priodol ar gael er mwyn i fyfyrwyr fedru ychwanegu mwy o brofiad gwaith yn y portffolio wrth i hwnnw ehangu a pharhau i fod yn adnodd iddynt ymhell ar ol diwedd y modiwl.
Ffrwd 2:
Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno eu cais i fynd i ffrwd 2, ynghyd a'r dystiolaeth briodol, cyn diwedd y flwyddyn gyntaf.
Bydd yn rhaid i'r myfyrwyr hyn lunio proffil 3000 gair, ac ynddo ddisgrifio'r elfennau canlynol gyda'r nod penodol o godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr ffrwd 1.
I'r rheiny sydd a phrofiad o weithio ar lefel raddedig, dylai'r proffil ddisgrifio sut aeth yr unigolyn i'r proffesiwn hwnnw, pa sgiliau sydd eu hangen i sicrhau'r swydd a'r broses recriwtio, pa sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn ystod eu cyfnod yn y swydd, sut y datblygodd y swydd yn ystod eu hamser ynddi, y llwybr gyrfa yr oeddynt wedi'i ddilyn, yr heriau a'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil y swydd a disgrifiad o 'ddiwrnod' nodweddiadol yn y swydd.
I'r rhai sydd wedi sefydlu a rhedeg eu busnes eu hunain, bydd y proffil yn disgrifio'r broses o ddechrau'r busnes (cyllid, marchnata, ffynonellau cyngor a chymorth), sut y datblygwyd y busnes, heriau a chyfleoedd, delio a'r 'wladwriaeth', y sgiliau sydd eu hangen i ddechrau arni a'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y broses a 'diwrnod' nodweddiadol wrth redeg y busnes.
Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr roi cyflwyniad byr 10 munud yn crynhoi eu proffiliau ac wedi'i anelu at eu cyd-fyfyrwyr ac yna sesiwn holi ac ateb gyda'u cynulleidfa.
Disgwylir i fyfyrwyr lunio portffolio yn cynnwys:
a. archwiliad sgiliau cyflawn (yn seiliedig ar yr AGAPh presennol)
b. tystiolaeth o ymwneud a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blwyddyn 2
c. cynllun gweithredu CAMPUS/SMART sy'n nodi camau i'w cymryd ym mlwyddyn 3
d. CV sy'n cynnwys y profiad a gafwyd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu profiadau a datblygiad sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd sy'n hwylus i gyflogwyr (CV) ac i fyfyrwyr eraill (ffrwd 2) |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Adfyfyrio ar gyflawniadau / profiadau ac integreiddio'r rhain i'w CV wedi'i gefnogi drwy gysylltiad a'r Ganolfan Cynghori ar Yrfaoedd a llunio cynllun gwella gyrfa |
Datrys Problemau | |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Adfyfyrio ar brofiadau, adnabod diffygion sgiliau a chyfleoedd ar gyfer gwella sgiliau (dyddiadur adfyfyriol a chynllun neu broffil a chyflwyniad) |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Nodi cyfleoedd pellach ar gyfer datblygiad yn eu cynllun gwella gyrfa |
Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5