Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 6 x Sesiynau Ymarferol 4 Awr |
Gweithdy | 2 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad cryno gan gr?p ar ddadansoddi syn annibynnol o dyfiant (1000 o eiriau ar y mwyaf). | 30% |
Asesiad Semester | Adroddiad ar ynysu cymysgedd microbau. (2000 o eiriau ar y mwyaf) yn cynnwys crynodeb or arbrawf yn y labordy ac asesiad plat llinell. | 55% |
Asesiad Semester | Crynodeb tair arbrawf. | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn labordy microbioleg.
2. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau annibynnol a dulliau sy'n dibynnu dyfiant ar gyfer disgrifio microbau.
3. Adrodd canlyniadau ymchwiliadau i ficrobau a chymunedau microbau gan ddefnyddio ystod o ddulliau ysgrifennu gwyddonol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl yw arog'r myfyriwr a'r sgiliau sylfaenol a ddisgwylir o berson graddedig sy'n gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig a microbioleg, drwy ymdrochi'r myfyriwr yn gyntaf mewn sesiynau labordy a gynlluniwyd er mwyn cyflwyno'r myfyriwr i ystod eang o ddulliau annibynnol a dulliau yn seiliedig ar dyfiant o ddisgrifio microbau, ac yn ail drwy ddehongli data o ddadansoddi meintiol a biowybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau ysgrifennu gwyddonol.
Cynnwys
Bydd y sesiynau gweithdy yn cyflwyno dulliau ar gyfer dadansoddi microbau a chymunedau microbau yn feintiol a thrwy fiowybodeg (e.e. dadansoddi genynnau RNA ribosomol 16S). Bydd y data hyn a DNA y gymuned microbau a ddadansoddir yn y sesiynau ymarferol yn ymwneud a diddordebau ymchwil cyfredol staff ac yn deillio ohonynt.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llunio adroddiadau gwyddonol mewn gwahanol ffurfiau ysgrifenedig. Sgiliau gwrando ar gyfer y gweithdai a thrafodaeth ddilynol mewn dosbarthiadau ymarferol, a chyfathrebu’n effeithiol yn bersonol ac yn electronig wrth ysgrifennu’r adroddiad cryno ar y cyd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau microbiolegol ac asesu'n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig |
Datrys Problemau | Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu a dehongli data o arbrofion, ac yn arbennig wrth adnabod microbau o ystod o brofion. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol ac yn cydweithredu wrth ysgrifennu’r adroddiad cryno ar y cyd. Bydd angen iddynt weithio’n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn llunio’r gwaith cwrs hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol. |
Rhifedd | Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys cyfrif a dadansoddi ystadegol gan ddefnyddio'r data a gasglwyd. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cymhwyso ystod o sgiliau labordy microbiolegol traddodiadol a molecylaidd i ddadansoddi microbau |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y deunyddiau a ddarperir ac yn gwerthuso data a thestunau o’r cronfeydd data cyhoeddus sydd ar gael. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi datblygiad sgiliau labordy yn gynnar yn eu gyrfaoedd academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio’r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau a dadansoddi cyfresi DNA. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5