Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 7 x Sesiynau Ymarferol2 Awr |
Darlith | 11 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Gwaithlyfr ymarferol wedi’i asesu Gwaithlyfr ymarferol yn ymdrin â’r gweithgareddau ymarferol (cyfanswm o 7). Terfyn geiriau: N/A | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr QMP resit exam To be scheduled in computer room | 60% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad QMP To be scheduled in computer room | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Ail eistedd gwaith lyfr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Amlinellu esblygiad bywyd ar y Ddaear ar raddfa daearegol
2. Asesu’r digwyddiadau paleo-hinsoddol a daearegol wnaeth effeithio esblygiad bywyd
3. Adnabod a disgrifio anifeiliad a phlanhigion o wahanol cyfnodau o hanes y Ddaear
Disgrifiad cryno
datblygiadau yma yng nghyd-destun newidiadau atmosfferig byd-eang, drifft cyfandirol a chyfnodau o ddifodiant, gan archwilio y tystiolaeth daearegol a ffosilaidd dros y digwyddiadau yma.
Cynnwys
Bydd y darlithoedd yn dilyn y themâu islaw: 1) Atmosffer cynnar y Ddaear ac ymddangosiad bywyd 2) Datblygiad y Paleosoig cynnar 3) Amrywiad y Palaeosoig uchaf 4) Bywyd morol a dinosoriaid y Mesosoig 5) Difodiant bywyd – y 5 digwyddiad mawr 6) Oeri’r Cenosoig ac esblygiad dyn 7) Yr Anthroposen Lle’n berthnasol, bydd samplau ffosil yn cael eu defnyddio yn ystod y darlithoedd i archwilio datblygiadau morffolegol trwy gydol y cyfnodau yma.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn cael eu annog i drafod trwy prosesau cwestiwn ac ateb trwy gydol y darlithoedd, ac yn cael eu annog i weithio mewn grwpiau bach o fewn y sesiynau ymarferol, gan gynnwys rhannu a thrafod samplau ffosil. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn darparu cefndir cryf mewn newid hinsawdd ar raddfa daearegol, sy’n ganolig i ddealltwriaeth o’r ddadl newid hinsawdd presennol. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o balaeontoleg, geocronoleg a datblygiad y Ddaear, sy’n hanfodol o fewn unrhyw gyrfa daeareg/gwyddor amgylcheddol. |
Datrys Problemau | Mae’r allu i adnabod a disgrifio gwahanol samplau ffosil yn cynnig sgiliau datrys Y problemau o fewn meysydd palaeontoleg, stratigraffig a daeareg yn gyffredinol. Trwy gydol y sesiynau ymarferol a’r darlithoedd bydd disgwyl i’r myfyrwyr dadansoddi pwysigrwydd y ffosilau o fewn cyd-destun esblygiad bywyd, digwyddiadau daearegol |
Gwaith Tim | Cyfathrebu fel grŵp yn elfen craidd o ddisgrifio a dadansoddi enghreifftiau ffosil yn y sesiynau ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd adborth ffurfiannol ar y gwaithlyfrau ymarferol yn cael ei cynnig trwy gydol y modiwl, gan gynnwys asesiad ymarferol ffurfiol yn ystod y tymor er mwyn asesu perfformiad. Bydd cwestiynau byr yn nhrefn yr arholiad yn cael ei cyflwyno yn y darlithoedd/ar y Porth er mwyn i’r myfyrwyr gallu asesu eu datblygiad a dealltwriaeth yn erbyn disgwyliadau yr arholiad. |
Rhifedd | Mae dadansoddi data rhifiadol a graffigol yn hanfodol i ddeall a gwerthfawrogi newidiadau paleohinsawdd ac amser daearegol, ac yn cael eu trafod o fewn y darlithoedd a’r sesiynau ymarferol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau palaeontoleg, stratigraffeg, geocronoleg a phaleohinsawdd, ac yn annog y myfyrwyr i ddeall sut mae’r meysydd yma’n cyd-gysylltu. |
Sgiliau ymchwil | Mae’r modiwl yma yn cyflwyno sawl pwnc newydd i’r myfyrwyr, ac felly bydd rhaid darllen yn ehangach. Bydd cwestiynau ‘gwybodaeth pellach’ yn cael ei osod o fewn y sesiynau ymarferol er mwyn annog datblygiad sgiliau ymchwil a llythrennedd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd ymchwil a darllen ychwanegol ar y we ac o fewn cyhoeddiadau academaidd yn hanfodol, ac yn cael ei annog trwy cynnig rhestrau darllen Aspire. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4