Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Sgript dramataidd gorffenedig ar gyfer y llwyfan Tua 60 munud o gynhyrchiad | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio o ddrafftiau a deunydd creadigol | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Sgript dramataidd gorffenedig Os methir y modiwl oherwydd methiant mewn unrhyw elfen ysgrifenedig, rhaid ailgyflwynor gwaith a fethwyd | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o ddrafftiau a deunydd creadigol Os methir y modiwl oherwydd methiant mewn unrhyw elfen ysgrifenedig, rhaid ailgyflwynor gwaith a fethwyd | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth fanwl o wahanol gonfensiynau a thechnegau ysgrifennu ar gyfer llwyfan theatr, ynghyd a'r gallu i strwythuro deunydd yn effeithiol;
Arddangos dealltwriaeth fanwl o'r technegau llwyfannu a fydd fwyaf manteisiol wrth lwyfannu'r darnau dramataidd a ysgrifennir ganddynt;
Arddangos annibyniaeth greadigol a deallusol wrth gymhwyso'r elfennau a'r egwyddorion a ddysgwyd iddynt yn y seminaru/gweithdai
Disgrifiad cryno
Dysgir y modiwl hwn trwy gyfres seminarau/gweithdai a sesiynau titwotial unigol a fydd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddadansoddi sawl agwedd ar dechneg a chrefft ysgrifennu drama ar gyfer llwyfan, i gyflawni ymarferion ysgrifennu a drafftiau ysgrifenedig. Nod sylfaenol y modiwl fydd cynnig cyfle i'r myfyrwyr i ddatblygu technegau arbenigol a gloywi eu crefft fel y gallant weithio'n annibynnol i gwblhau sgript dramataidd llawn.
Cynnwys
Natur ac oblygiadau gwahanol ffurfiau dramataidd (megis monolog, deialog ac ati); Natur ac oblygiadau gwahanol ffyrdd o gychwyn sefyllfaeodd dramataidd;
'Cloddio delwedd', sef dadansoddiad o'r modd y gall gwahanol ddelweddau roi dyfnder ac ychwanegu at weledigaeth golygfa ddramataidd;
Dulliau o ymchwilio wrth ysgrifennu'n greadigol;
Y corff fel ldelwedd a throsiad;
Beth yw 'tempo' mewn drama? Pam fod tempo'n bwysig; sut mae cynhyrchu tempo o fath arbennig a sut y medrir ei reoli;
Gofod: gofod yn y testun, gofod ym myd y ddrama ac yn y gofod perfformio; ynghyd a gofod damcaniaethol/dychmygol ym meddwl y gynulleidfa.
Fe fydd y sesiynau tiwtorial yn canolbwyntio ar ddatblygu sgript y myfyriwr yn unigol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Fe fydd pwyslais arbennig ar sgiliau cyfathrebu yn y modiwl: disgwylir i'r myfyrwyr ystyried a datblygu gwahanol ddulliau o gyfathrebu gweledigaeth ddramataidd wrth lunio darnau ysgrifenedig, ac fe fydd y seminarau/gweithdai ymarferol a'r sesiynau twitorial yn gosod pwyslais arbennig iawn ar y gallu i gyfathrebu wrth drafod problemau a gosod nodau ymarferol i'w cyflawni. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni fydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y profiad o weithio'n ddwys ar ddarn o waith creadigol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o sgiliau a fyddai'n angenrheidiol petaent yn dilyn gyrfa broffesiynol fel awdur sgriptiau. |
Datrys Problemau | Un o brif dasgau ymarferol y modiwl fydd datblygu sgiliau ymarferol i ddatrys y problemau creadigol sy'n codi wrth geisio llunio sgript dramataidd gorffenedig, ac wrth geisio dychmygu pa fath o amodau perfformio a chynhyrchu a fydd fwyaf cymwys ar gyfer llwyfanu'r deunydd. |
Gwaith Tim | Ni ddatblygir sgiliau gwaith tim yn ystod y modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe roddir cyfle pwysig i'r myfyrwyr ddatblygu eu dysgu a gwella eu perfformiad unigol yn ystod y modiwl trwy gyflwyno aseniad paratoadol cyn mynd ati i greu darn o waith gorffenedig terfynol. Fe fydd y broses o drafod y deunyddiau paratoadol ynghyd a'r adborth a dderbynnir ar ol cyflwyno'r aseiniad cyntaf yn allweddol bwysig wrth gynnig persbectif ar y brif dasg ymarferol. Fe fydd y trafodaethau seminar hefyd yn cynnig cyfle i'r myfyrwyr ystyried y math o adborth a roddir i waith aelodau eraill y dosbarth. |
Rhifedd | Ni ddatblygir sgiliau gwybodaeth rhifyddol yn ystod y modiwl |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyriwr ystyried sut i gafael gwybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer creu a diffinio cymeriadau a/neu sefyllfa ddramataidd neilltuol. er nad asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, fe fydd ansawdd y gwaith ymchwil yn cyfrannu'n bwysig at lwyddiant yr aseiniad terfynol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno'u sgriptiau wedi'u prosesu'n eiriol; ac fe fydd y gwaith ymchwil a gyflawnir wrth baratoi'r aseiniadau ymarferol yn gofyn gallu i weithio'n effeithiol ar-lein; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6