Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC25920
Teitl y Modiwl
Actio i Gamera
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio Myfyrgar/Hunanfyfyrgar/Arfarnol (2,500 o eiriau) | 40% |
Arholiad Semester | 7 Awr Arholiad Ymarferol | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Myfyrgar/Hunanfyfyrgar/Arfarnol (2,500 o eiriau) | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 7 Awr Arholiad Ymarferol | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Weithio'n effeithiol mewn grŵp bach ar gyfres o olygfeydd penodol
2. Defnyddio ystod o dechnegau perfformio ar gyfer y sgrin
3. Trafod, dehongli, a myfyrio'n feirniadol ar ystod o brosesau
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio potensial y berthynas rhwng perfformiwr a chamera. Ar y cyd â modiwlau eraill sy'n canoli ar berfformio, fe fydd y modiwl yn ymestyn gallu myfyrwyr i berfformio mewn cyd-destunnau gwahanol.
Nod
Nod y modiwl yw ymestyn sgiliau perfformio myfyrwyr wrth rhoi theori ar waith wrth berfformio.
Cynnwys
Pynciau a wyntyllir mewn gweithdai ymarferol:
1. Stanislavski a Chekhov
2. Perfformio byw a pherfformio sgrin
3. Adnoddau 1: Y Llais
4. Adnoddau 2: Y Corff
5. Pellter saethiadau
6. Creu cymeriad
7. Dadansoddi testun
8. Saethu
9. Genre 1: Sebon a Drama
1. Stanislavski a Chekhov
2. Perfformio byw a pherfformio sgrin
3. Adnoddau 1: Y Llais
4. Adnoddau 2: Y Corff
5. Pellter saethiadau
6. Creu cymeriad
7. Dadansoddi testun
8. Saethu
9. Genre 1: Sebon a Drama
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu yn hanfodol i'r modiwl. Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at drafodaethau mewn gweithdai. Fe fydd myfyrwyr yn creu portffolio myfyrgar/hunanfyfyrgar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth weithio ar olygfa benodol, ceisio dod o hyd i atebion a bod yn ymwybodol o gymhlethdodau. |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y gweithdai ac i ddeall deinamig grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd ymateb i adborth a gwella perfformiad yn rhan ganolog o weithdai'r modiwl hwn. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, a medru defnyddio pecynnau geirbrosesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5