Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 gair | 25% |
Asesiad Semester | 1 x asesiad dogfennau 1,500 gair | 10% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x asesiad atodol (ail-sefyll) dogfennau 1,500 gair | 10% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o hanes cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwydiannol cymunedau meysydd glo Prydain.
Deall a gwerthuso gwahanol drafodaethau a dadansoddiadau a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.
Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol.
Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.
Gweithio ar eu pennau eu hunain yn ogystal a gyda ei gilydd, ac i chwarae rhan mewn trafodaethau gyda'r gr'r.
Nod
Mae pynciau arbennigol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr yn eu trydedd blwyddyn i astudio cyfnod pennodol mewn dyfnder, gan wneud defnydd helaeth o ffynonhellau cynradd. Mae'r pynciau yn cael eu dysgu'n ddwys, a bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos lefel uchel o wybodaeth, creadigrwydd a gofal. Ynghyd a'r traethawd hir, a'r modiwl cyffredinol ar broblemau hanesyddol, mae'r pynciau arbennigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddangos aeddfedrwydd eu sgiliau hanesyddol ac academaidd. Mae'r dewis o bynciau arbennigol yn adlewyrchu'r rhychwant o ddulliau dysgu a diddordebau ymchwil ymysg staff yr adran. Fel mewn modwlau craidd eraill, mae dewis o gyfnodau hanesyddol ar gael
Disgrifiad cryno
Y mae'r modiwl hwn yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol i astudio hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant ym 1947. Mae'r sesiynau cyntaf yn ystyried gwaith glowyr a'r damweiniau a'r trychinebau a oedd mor gyffredin yn y diwydiant yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y seminarau dilynnol yn canolbwyntio ar gyflogwyr y diwydiant, pwy sydd yn cael eu portreadu'n aml iawn fel cyfalafwyr cas nad yw'n poeni llawer am eu gweithwyr truenus, ac wedyn undebau llafur, sydd yn eu tro wedi cael eu darlunio'n aml fel elfennau peryglus a wnaeth danseilio llwyddiant y diwydiant. Yn y sesiynau olaf, mae'r modiwl yn canolbwyntio ar fenywod a'r berthynas rhwng y rhywiau yng nghymunedau'r glofeydd cyn symud ymlaen i ystyried natur y cymunedau a geid yn y meysydd glo. Mae'r seminar olaf yn canolbwyntio ar wladoliad y diwydiant.
Cynnwys
1. Cyflwyniad: Glo a Meysydd Glo yn Hanes Prydain
2. Gwaith
3. Perygl, Marwolaeth a Thrychinebau
4. Cyflogwyr
5. Undebau Llafur
6. Cymunedau'r Meysydd Glo
7. Menywod
8. Rhywedd
9. Gwleidyddiaeth
10. Gwladoli'r Diwydiant
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth agos o nifer o ffynnonhellau o fewn hanes y cyfnod modern gan gynnwys dogfennau cyhoeddiedig ac heb eu cyhoeddi; y gallu i ddefnyddio deunydd ymchwil priodol yn effeithiol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6