Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 5 x Seminarau 2 Awr |
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 25% |
Arholiad Semester | 3 Awr (1 x arholiad 3 awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 25% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 3 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth soffistigedig o hanesyddiaeth yr oesoedd canol o tua 1200 hyd 1500 a sut y mae wedi datblygu
Arddangos dealltwriaeth o sut yr amlygir teithi meddwl y byd canoloesol, mewn amryw gyd-destunau gwahanol, gan werthfawrogi'r gwahaniaethau rhyngddo a rhagdybiaethau'r byd cyfoes
Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol a gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a gwerthuso eu defnyddioldeb i'r hanesydd
Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol er mwyn cynhyrchu dadleuon priodol ar wahanol themau perthnasol
Arddangos y gallu i weithio fel unigolion gan reoli amser yn effeithiol
Arddangos a datblygu'r medrau sydd yn briodol i astudio'r oesoedd canol a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol
Disgrifiad cryno
Sut oedd pobl yr oesoedd canol yn gweld y byd o'r cwmpas? Sut mae'r bosibl dysgu am ffordd o feddwl cyfnod arall mewn hanes? Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wybodaeth pobl ganoloesol am y byd, sut oeddent yn dehongli'r wybodaeth honno a'r chwilfrydedd i ddarganfod mwy. Trwy edrych ar faterion megis syniadau dychmygol am y byd, meddygaeth, y ffordd y cai unigolion ar ymylon cymdeithas eu trin a'r ymdrech i ddarganfod y byd tu hwnt i Ewrop byddwn yn cael golwg ar y meddwl canoloesol ac effaith y syniadau hynny ar fywyd cymdeithas. Ceir ymgais arbennig i geisio gweld sut oedd pobl `gyffredin? yn gweld y byd o'r cwmpas, os oedd hynny yn wahanol i syniadau rhannau eraill o'r gymdeithas ac i ba raddau y gallent herio'r syniadau derbyniol. Gwneir hyn trwy ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau o'r cyfnod, gan gynnwys ffynonellau ysgrifenedig a gweledol megis y Mappa Mundi, ac astudir sut oedd gwybodaeth a syniadau yn treiddio trwy gymdeithas. Erbyn y diwedd dylai myfyrwyr gael golwg gwell ar bobl yr oesoedd canol a gwerthfawrogi'r modd mae cyfnodau gwahanol yn meddwl yn wahanol am y byd o'r cwmpas.
Nod
Datblygu deall yn ffordd yr Oesoedd Canol o ddehongli ac ymchwilio i'r byd o'u cwmpas.
Cyflwyno ffynonellau allweddol i ddeall ffordd o feddwl y byd Canoloesol a chynnig hyfforddiant wrth ddeall y ffynonellau.
Annog gwerthfawrogiad o'r modd mae unigolion mewn cyfnodau gwahanol yn gweld y byd mewn ffyrdd gwahanol.
Cynnwys
1) Cyflwyniad: adnabod Ewrop ganoloesol
Dehongli'r byd o amgylch
2) Ffydd y bobl
3) Strwythr cymdeithas
4) Herio awdurdod
5) Mapio'r byd
6) Hanes
7) Ofergoeliaeth a chwedlau
Aelodaeth o'r gymdeithas
8) Hunaniaeth
9) Erlid yr 'arall'
10) Perthynas ag Islam
Chwilfrydedd a darganfod
11) Addysg
12) Astudio mewn prifysgolion
13) Gwyddoniaeth a seryddiaeth
14) Meddygaeth a'r corff
15) Teithio tu hwnt i Ewrop
16) Darllen a'r wasg argraffu
17) Yr Oes Ddarganfod
18) Casgliad: deall y 'meddwl canoloesol'?
Seminarau:
1) Golwg ar y meddylfryd canoloesol
2) Dehongli'r byd: gwybodaeth a'r dychymyg
3) Cymdeithas: aelodaeth a'r 'arall'
4) Ceisio gwybodaeth: deall y byd materol a goruwchnaturiol
5) Edrych tu hwnt i Wledydd Cred
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | DDarllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6