Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 10 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes y Chwyldro Ffrengig a dyfnhau dealltwriaeth ac ymestyn ymwybyddiaeth o'r pwysigrwydd i hanes Ffrengig ac Ewropeaidd.
2. Deall perthnasedd y Chwyldro i hanes diweddarach Ffrainc a'r Ffrainc gyfoes.
3. Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod y Chwyldro Ffrengig.
4. Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol.
5. Datblygu eu gallu i gasglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, ac i leoli ac ystyried y wybodaeth hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.
Nod
I asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod y Chwyldro Ffrengig.
I ddatblygu ac ymestyn sgiliau dadansoddol a beirniadol myfyrwyr trwy astudio hanesyddiaeth y chwyldro.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhesymau dros ffrwydrad y Chwyldro yn y lle cyntaf a sut y cafodd un o gymdeithasau mwyaf sefydledig Ewrop ei throi ben i waered. Byddwn yn ystyried y gymdeithas Ffrengig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac yn ystyried prif ddigwyddiadau'r Chwyldro, gan ystyried y prif gymeriadau a'r goblygiadau gwleidyddol hir dymor i hanes Ffrainc ac Ewrop yn ystod y canrifoedd dilynol. Byddwn hefyd yn ffocysu ar bortread y Chwyldro o dan effaith ideolegau megis Marcsiaeth, yn ogystal ag ystyried portread y Chwyldro yng ngwledydd eraill, yn cynnwys Cymru a Phrydain cyfan.
Cynnwys
Darlith 1: Cyflwyniad .
Darlith 2: Yr Ancien Regime.
Darlith 3: Dechrau'r Chwyldro a'r flwyddyn dyngedfennol: 1789.
Darlith 4: Prif ddigwyddiadau a phrif gymeriadau 1789 - 1799.
Darlith 5: Gwrthchwyldro a Chyfnod yr Arswyd.
Darlith 6: Y Directoire, dyfodiad Napoleon Bonaparte ac ymlediad chwyldroadol.
Darlith 7: Diwedd y Chwyldro?
Darlith 8: Ymateb rhyngwladol i'r Chwyldro.
Darlith 9: Dehongli'r Chwyldro.
Darlith 10: Crynhoi a chasgliad.
Sesiwn 11: Sesiwn adolygu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o'r grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella'r perfformiad. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu'r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i'r cyfnod a'r maes ynghyd a'r gallu i ymdrin yn feirniadaol a'r llenyddiaeth eilaidd sy'n ymwneud a'r Chwyldro Ffrengig. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu'r modiwl hwn a bydd felly'n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6