Gwybodaeth Modiwlau
- Mr William D Jones
- Dr Steve Thompson
- Dr Alastair Kocho-Williams
- Professor Bjorn Weiler
- Professor Michael P Brown
- Professor Peter N Borsay
- Dr Carl S Watkins
- Dr Eryn M White
- Professor Iwan Morus
- Dr Michael F Roberts
- Dr Peter A Lambert
- Dr Paul B O'Leary
- Dr David Jones
- Dr Jessica Gibbs
- Dr Matthew Phillips
- Mr Rhun Emlyn
- Miss Arddun Arwyn
- Dr Richard G Coopey
- Dr Sian Nicholas
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 5 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 1,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 24 Awr (1 x arholiad agored 24 awr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 1,500 o eiriau | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 24 Awr 1 x arholiad agored 24 awr atodol (ail-sefyll) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth o sut a pham y daeth Hanes yn ddisgyblaeth fodern academaidd ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth broffesiynol.
Arddangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng hanes academaidd a ffyrdd eraill o ddehongli a defnyddio'r gorffennol.
Ystyried mewn cyd-destun ehangach ysgrifennu hanesyddol a astudiwyd ar gyfer modiwlau eraill.
Arddangos cynefindra a'r prif dueddiadau yn yr astudiaeth o hanes dros amser, ynghyd a dylanwadau haneswyr penodol ac ysgolion mewn hanes.
Dangos gallu i ystyried yn feirniadol ystod o dystiolaeth a'i defnyddio i lunio dadl effeithiol.
Nod
2. I sicrhau ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o gyd-destun ehangach y ddisgyblaeth y maent yn astudio.
3. I annog myfyrwyr i wneud defnydd o'r ymwybyddiaeth a feithrinid yn y modiwl hwn i'w cynorthwyo gyda gweddill eu hastudiaethau hanesyddol.
Disgrifiad cryno
Bu llanw a thrai cyson o fewn hanes fel disgyblaeth, gydag amrywiol syniadau, agweddau a dulliau yn datblygu ymhlith ymchwilwyr ac awduron. O fewn y modiwl hwn, y bwriad yw i archwilio'r newidiadau a datblygiadau o fewn y ddisgyblaeth drwy ystyried nifer o enghreifftiau penodol. Edrychir ar nifer o wahanol ddatblygiadau a ddaeth yn ddylanwadol ar wahanol adegau, ynghyd ag effaith rhai testunau arwyddocaol a newidiodd y ffordd y gwnaeth haneswyr ymdrin a rhai pynciau.
Cynnwys
1. Intellectual movements and the statist paradigm
2. The Annales 'school' of historians
3. Writing Welsh History in the 2oth century
4. Namier and Namierism
5. Marx and the Marxist Approach
6. Orientalism and Post-Colonial History
7. Atlantic History, World History and Global History
8. Gender History
9. The Post-modern challenge
10. Paradigm Shifts in the History of Science and Technology
Methodologies
1. Archives and Libraries
2. Oral History
3. Archaeology
4. Family and Local Histories
5. Environmental History
SEMINARAU
Dewisir pum pwnc gan y tiwtor seminar yn ol arbenigedd cyfnod, ac fe ganolbwyntir ar nifer o destunau, er enghraifft:
Yr Annales a Carlo Ginsburg Cheese and the Worms
Namier a Charles Townshend
Marx a E. P. Thompson, Making of the English Working Class
Rhywedd a Amanda Vickery, Gentleman's Daughter
Arthur Koestler, Sleepwalkers
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Y mae datblygu sgiliau cyfathrebu drwy ddysgu sut i gyflwyno dadl effeithiol yn elfen allweddol o'r modiwl. Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig fel rhan o'r gwaith cwrs a'r arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn datblygu rhychwant o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser a sgiliau cyfathrebu, a all eu helpu i adnabod eu cryfderau personol wrth ystyried llwybrau posib o ran gyrfa. |
Datrys Problemau | Anogir myfyrwyr i ystyried y math o broblemau sy'n wynebu haneswyr gyda gwahanol agweddau o'r ddisgyblaeth ac i ystyried sut i fynd ati i ddatrys y problemau hynny. |
Gwaith Tim | Y mae potensial i ddatblygu hyn drwy gyfrannu i'r seminarau grwpiau bychain. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ar eu gwaith asesiedig ym mhob semester a fydd yn eu cynorthwyo i ystyried a chryfhau eu perfformiad yn ystod y modiwl. |
Rhifedd | Heb fod yn berthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o sut y mae haneswyr, proffesiynol neu beidio, wedi ymdrin â'r ddisgyblaeth yn y gorffennol, a ddylai gyfoethogimu gwaith darllen ar gyfe rmodiwlau eraill. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddysgu lleoli ac adnabod gwybodaeth berthnasol i'w cynorthwyo wrth gwblhau eu gwaith. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr i wneud defnydd o adnoddau priodol arlein, yn ogystal â Blackboard, cofnodi darlithoedd a meddalwedd prosesu geiriau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6