Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
GWM9705
Teitl y Modiwl
Polisi Iaith yng Nghymru
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 1 x 1,500 o eiriau adroddiad briffio | 100% |
Asesiad Semester | 1 x 1,500 o eiriau adroddiad briffio | 100% |
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn dechrau drwy werthuso cyfraniad actorion allweddol yn y gymdeithas sifil i ddatblygu’r ymdrech i adfywio rhagolygon y Gymraeg. Bydd y ffocws wedyn yn symud at brif bleidiau gwleidyddol Cymru er mwyn cymharu a chyferbynnu’r modd mae’r actorion gwahanol hyn wedi ymwneud â pholisi iaith dros y blynyddoedd. Bydd y modiwl yn gorffen gydag ystyriaeth o gyfeiriad polisi iaith yn y dyfodol yng Nghymru, yn ogystal â dyfodol y Gymraeg ei hun.
Nod
Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r cyfraniad a wnaed gan actorion gwleidyddol allweddol i’r ymdrech i atal dirywiad y Gymraeg ac adfywio ei dyfodol.
Cynnwys
1. ‘Mudiad y Gymraeg’
2. Y pleidiau gwleidyddol a’r Gymraeg
3. Dyfodol y Gymraeg
2. Y pleidiau gwleidyddol a’r Gymraeg
3. Dyfodol y Gymraeg
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gyflwyno eu syniadau a’u dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddan nhw’n dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw. Byddan nhw’n dysgu sut i ddefnyddio’r ffynonellau niferus o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r math gorau o gyfathrebu yn y modd mwyaf manteisiol. Byddan nhw’n dysgu bod yn glir yn eu hysgrifennu a’u siarad ac yn uniongyrchol am nodau ac amcanion. Byddan nhw’n dysgu ystyried yr hyn sy’n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth yn unig. Bydd myfyrwyr hefyd yn gorfod cyflwyno eu hasesiad ar fformat prosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith hwn adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynigir y modiwl fel darpariaeth DPP y gellir ei defnyddio gan unigolion i hwyluso datblygiad gyrfa broffesiynol |
Datrys Problemau | Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau’n nod canolog i’r modiwl. Wrth baratoi’r asesiad ysgrifenedig bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Caiff gallu myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddyn nhw: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a ffurfio ateb i’r broblem; ymresymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu problemau’n broblemau llai |
Gwaith Tim | Ar gyfer rhai o’r pynciau mae’r modiwl hwn yn eu cwmpasu, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach lle bydd gofyn i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion craidd yn ymwneud â’r pwnc seminar. Bydd y trafodaethau dosbarth hyn yn caniatau i fyfyrwyr ymdrin ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae’r modiwl yn anelu at hybu hunan-reoli ond o fewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cynullydd modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfoethogi eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy ymgymryd ag ymchwil annibynnol ac ymarfer eu menter eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau perthnasol |
Rhifedd | D/G |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth o sgiliau penodol i’r pwnc fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadu a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae’r sgiliau penodol hyn yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â’r modiwl • Gwerthuso persbectifau cystadleuol • Cymhwyso cysyniadau a fframweithiau cyffredinol mewn perthynas â phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol wrth baratoi ar gyfer y sesiynau addysgu a hefyd wrth baratoi'r gwaith i’w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys testunau academaidd craidd |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflwyno’r gwaith a asesir mewn fformat prosesydd geiriau drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau o wybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7