Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Gweithdy | 4 x Gweithdai 2 Awr |
Seminar | 9 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cymryd rhan mewn seminarau | 10% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Adolygiad x 1000 gair yn lle paratoi ar gyfer seminar | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o'r prif gysyniadau sy'n gysylltiedig ag astudio rhyfel a gwleidyddiaeth, diogelwch a strategaeth.
2. Arddangos dealltwriaeth o'r dadleuon parhaus ynghylch achosion rhyfel a sefydlu heddwch.
3. Gwahaniaethu rhwng sawl lefel o ddadansoddi wrth astudio rhyfel a gwleidyddiaeth.
4. Trafod a dadansoddi damcaniaethau atal gwrthdaro sy'n cystadlu a'i gilydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn ymdrin a'r brif ddadleuon damcaniaethol sy'n ymwneud a'r berthynas rhwng rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth.
Nod
Mae astudio'r rhyngberthynas rhwng rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth wedi bod wrth wraidd cysylltiadau rhyngwladol academaidd. Mae'r deunydd pwnc a'r dulliau astudio, er hynny, wedi achosi tipyn o ddadlau. Wrth gyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth eang o draddodiadau deallusol a syniadau cyfoes am y pwnc, nod y modiwl hwn yw rhoi sail gynhwysfawr i fyfyrwyr (drwy gysyniadau, damcaniaethau a rhywfaint o hanes deallusol yn arbennig) er mwyn iddynt ddeall ac egluro rhai o bynciau mwyaf amlwg rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth yn y byd sydd ohoni.
Cynnwys
1. Cyflwyniad i'r modiwl
2. Beth yw rhyfel a sut i astudio rhyfel mewn gwleidyddiaeth ryngwladol?
3. Cydbwysedd grym
4. Cydweithredu dan anarchiaeth; Cyd-ddiogelwch
5. Cymunedau diogelwch; Llywodraeth y byd
6. Darfodedigaeth rhyfel; Heddwch democrataidd
7. Darlith adolygu 1; Paratoi'r traethawd
8. Militariaeth; Y cymhleth militaraidd-ddiwydiannol
9. Arbenigedd amddiffyn vs. gwleidyddiaeth ddemocrataidd
10. Diwylliant a strategaeth
11. Argyfyngau: rhwng rhyfel a heddwch
12. Darlith adolygu 2; Paratoi'r traethawd
13. Cadw'r heddwch; cadw'r heddwch
14. Casgliad: Rhaid i bob rhyfel ddod i ben (?)
Seminarau
1. Gwyddor gymdeithasol rhyfel
2. Achosion rhyfel 1: dyn
3. Achosion rhyfel 2: y wladwriaeth
4. Achosion rhyfel 3: y drefn
5. Cyfyng-gyngor diogelwch
6. Cymdeithas anarchaidd
7. Strategaeth, diwylliant, ethnosentrigrwydd
8. Astudiaeth achos: yr anghydfod yn Syria
Gweithdai trafod
1. Rhyfel
2. Gwleidyddiaeth
3. Strategaeth
4. Heddwch
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn effeithiol, fel unigolion ac mewn grwp. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Bydd y modiwl hwn yn profi'n arbennig sgiliau cyfathrebu clywedol a llafar gan ei fod yn cynnwys asesu perfformiadau mewn seminarau. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwrpas y modiwl hwn yw gwella a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno dau aseiniad ysgrifenedig a pharatoi ar gyfer trafodaethau seminar, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i'r broblem; ystyried achosion eithafol; rhesymu'n rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg ac annhebyg; chwilio am batrymau; rhannu pynciau yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyflawni gwaith grwp yn ystod y seminarau. Ar gyfer rhai o'r pynciau ar y modiwl hwn, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod fel grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau. Bydd yr angen i baratoi ar gyfer cymryd rhan mewn seminarau, elfen a fydd yn cael ei hasesu, a chwrdd a dyddiadau cau gwaith cwrs yn hoelio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser eu hunain. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, dadansoddi a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am ryfel, gwleidyddiaeth a strategaeth. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Arddangos technegau ymchwil sy'n benodol i'r pwnc Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod amryfal achosion hanesyddol a chyfoes. |
Sgiliau ymchwil | Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol wrth weithio ar eu traethodau. Bydd hynny'n golygu defnyddio testunau academaidd yn bennaf. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hasesu'n rhannol ar eu gallu i ddwyn ynghyd adnoddau priodol a diddorol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno ac i ddefnyddio ffynonellau ar-lein yn briodol wrth wneud y gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6