Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 11 x Darlithoedd 1 Awr |
Gweithdy | 2 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 Traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad (2 Awr) | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad (2 Awr) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | 1 Traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Papur Cysyniad (500 gair) | 10% |
Asesiad Semester | Papur Cysyniad (500 gair) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o'r prif ddadleuon yn namcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol.
2. Dangos dealltwriaeth gyffredinol o hanesyddiaeth damcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol.
3. Myfyrio'n feirniadol ar ddamcaniaethau a chysylltiadau allweddol yng nghyd-destun cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.
4. Arddangos gwybodaeth gyffredinol o'r prif awduron a'u prif weithiau.
5. Arddangos ymwybyddiaeth o ddamcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol a'r dadleuon perthnasol yn athroniaeth gwyddor gymdeithasol.
6. Adnabod ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a'r gwahaniaethau rhyngddynt.
7. Trafod mewn seminarau ac yn eu gwaith ysgrifenedig brif elfennau gwahanol ddamcaniaethau wrth eu hystyried yng nghyd-destun digwyddiadau'r byd sydd ohoni.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cynnig ystod o wahanol safbwyntiau i fyfyrwyr ar ddamcaniaethu'r rhyngwladol. Byddwn yn archwilio gwreiddiau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad ysgolion damcaniaethol o feddwl, rol lensys damcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o'r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol ar gyfer darllen prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol, megis realaeth (clasurol a neorealaeth), rhyddfrydiaeth, yr Ysgol Seisnig, lluniadaeth, ffeminyddiaeth, Marcsiaeth, Damcaniaeth Feirniadol, ol-drefedigaethrwydd, ol-strwythuraeth, a damcaniaeth normadol.
Nod
Mae nodau'r modiwl hwn yn ddeublyg. Yn gyntaf, mae'n cyflwyno'r myfyrwyr i draddodiadau damcaniaethol craidd. Rhoddir sylw arbennig i'r tybiaethau, yr honiadau a'r dulliau rhesymu sy'n gwahaniaethu'r traddodiadau meddwl hyn. Yn ail, ystyrir treiddgarwch y traddodiadau hyn mewn sawl cyd-destun cyfoes. At ei gilydd, felly, mae'r modiwl yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yn y dadleuon hyn ac archwilio'r anghytuno sy'n deillio ohonynt.
Cynnwys
Darlithoedd
1. Cyflwyniad i 'ddamcaniaeth'
2. Hanes y ddisgyblaeth a dadleuon ynghylch 'delfrydiaeth'
3. Meddwl realwyr clasurol
4. Realaeth Strwythurol
5. Yr Ysgol Seisnig
6. Rhyddfrydiaeth Cysylltiadau Rhyngwladol ar ol yr Ail Ryfel Byd
7. Llunio gwleidyddiaeth ryngwladol
8. Marcsiaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
9. Damcaniaeth Feirniadol
10. ol-strwythuraeth
11. Ffeminyddiaeth
12. Beirniadaethau ol-drefedigaethol
13. Dulliau normadol
14. Ystyriaethau i gloi ar ddamcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol ac ymarfer gwleidyddiaeth ryngwladol
15. Darlith Adolygu
Seminarau
1. 'Damcaniaethu' mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
2. Realaethau
3. Rhyddfrydiaeth
4. Lluniadaeth
5. Marcsiaeth
6. Damcaniaeth feirniadol ac ol-strwythuraeth
7. Ffeminyddiaeth ac ol-drefedigaethrwydd
8. Damcaniaeth normadol
9. Casgliadau ac adolygu
Gweithdai Damcaniaeth
1. Damcaniaethu yn oes globaleiddio; wythnos 5
2. Damcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol gyfoes; seminar dan arweiniad staff ar y gwaith ymchwil i ddamcaniaethu a gyflawnir yn yr adran; wythnos 8
3. Diwedd damcaniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol? Dyfodol astudio gwleidyddiaeth ryngwladol; wythnos 11
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut orau i ddefnyddio'r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu haseiniadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwrpas y modiwl hwn yw meithrin a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno ystod o asesiadau sgiliau astudio, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu'n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o bynciau'r modiwl hwn, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar mewn grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cyd-gysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau yn y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth. |
Sgiliau ymchwil | Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ystod o ffynonellau, gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd i'w gyflwyno, drwy'r llwyfan ar-lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6