Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 11 x Sesiynau Ymarferol3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dyddiadur Labordy | 60% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar Powerpoint (drwy'r Gymraeg) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 8 Awr Experimental exam | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
- cyflawni arbrofion syml mewn Ffiseg
- cymhwyso dulliau dadansoddi cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau
- diddwytho casgliadau priodol o'r canlyniadau
- cyflwyno eu gwaith mewn dyddiadur labordy, adroddiad ffurfiol a chyflwyniad Powerpoint
Nod
Mae'r modiwl sylfaen hwn yn adeiladu ar y modiwl labordy PH05010 gan barhau i hyfforddi'r myfyrwyr mewn ymarfer labordy dda. Mae'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith labordy Blwyddyn 1 israddedig (FfCChC Lefel 4).
Disgrifiad cryno
Adeilada'r modiwl ar y rhagarweiniad a roddwyd ym modiwl PH05010 i Ffiseg arbrofol. Mae'r pwyslais yn parhau ar hyfforddi'r myfyrwyr i ddefnyddio cyfarpar labordy sylfaenol, ar gymhwyso'r technegau dadansoddi cyfeiliornad a gyflwynwyd yn y modiwl blaenorol, ac ar ddehongli canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynnol. Datblygir sgiliau cyflwyno gwaith yng nghyd-destun yr arbrofion.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnwys set o arbrofion o wahanol feysydd o Ffiseg yn cynnwys: Osgiliadau a Thonnau, Ffiseg Thermol a Thrydan a Magneteg. Bydd y myfyrwyr yn cyflawni'r arbrofion mewn system cylchdro yn ystod y semester. Er mwyn cyflwyno'r gwaith disgwylir i bob myfyriwr gadw Dyddiadur Labordy yn nodi'n fanwl y cynnydd ym mhob arbrawf, paratoi adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a thraddodi cyflwyniad llafar gan ddefnyddio PowerPoint.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy Ddyddiadur Labordy ac Adroddiad Ffurfiol. Datblygir sgiliau llafar drwy gyflwyniad llafar ar arbrawf. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae gwaith labordy yn elfen bwysig ar gyfer cynllunio gyrfa mewn Ffiseg. |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn rhan annatod o waith labordy Ffiseg. |
Gwaith Tim | Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn parau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i'r myfyrwyr ystyried eu mesuriadau a'u canlyniadau yn feirniadol. Asesir elfennau o'r cwrs yn ystod y semester fel bo'r myfyrwyr yn cael cyfle i adlewyrchu ar eu perfformiad yn ystod y modiwl. |
Rhifedd | Mae rhifedd yn elfen annatod o arbrofion Ffiseg. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae'r arbrofion wedi eu sylfaenu ar destunau Ffiseg. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio er mwyn cymharu eu canlyniadau â theori cydnabyddedig. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o waith labordy. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3