Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 3 x Seminarau 1 Awr |
Seminar | 2 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno'r Traethawd o 1,500 gair. | |
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno'r Adroddiad o 3,000 o eiriau. | |
Asesiad Semester | Traethawd o 1,500 o eiriau yn trafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas, a'r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny. Traethawd o 1,500 o eiriau yn trafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas, a'r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny. | 25% |
Asesiad Semester | Adroddiad o 3,000 o eiriau. Adroddiad o 3,000 o eiriau. | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Cwblhau hunan-asesiad o'u medrau cyflogadwyedd, gan nodi eu cryfderau a'u gwendidau.
Trefnu (gyda chymorth staff ADGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) a chwblhau cyfnod o brofiad gwaith pwrpasol o o leiaf 50 awr.
Arddangos dealltwriaeth o'r hyn a wneir yn y sefydliad lle'u cyflogir, sut y'i rheolir a chyfraniad y myfyriwr i'r sefydliad.
Arddangos gallu i gymhwyso eu sgiliau a'u medrau mewn sefyllfa waith ac i werthuso hyn.
Cynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer meithrin eu medrau cyflogadwyedd ymhellach.
Adlewyrchu ar addasrwydd daearyddiaeth, fel disgyblaeth, i gyfrannu at gymdeithas, ac adnabod achosion moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i drefnu (gyda chymorth staff ADGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) cyfnod o 50 awr o brofiad gwaith pwrpasol rywdro rhwng diwedd blwyddyn 1 a diwedd blwyddyn 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i fyfyrwyr i fynychu eu cyfnod o brofiad gwaith un ai yn ystod eu gwyliau neu - ar ffurf rhan amser- yn ystod y tymor. Disgwylir i'r myfyrwyr i ddadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo.
Cynnwys
Semestr 2 (Blwyddyn 1, un seminar):
1. Cynhelir un sesiwn paratoi ar ddiwedd Blwyddyn 1 ar gyfer myfyrwyr sydd wedi rhag-gofrestru ar gyfer y modiwl. Defnyddir y sesiwn hyn fel cyfle i'r myfyrwyr i asesu eu medrau cyflogadwyedd ac i drafod lleoliad posib ar gyfer eu cyfnod o brofiad gwaith.
Semestr 1 (Blwyddyn 2, dau seminar):
2. Cynhelir un sesiwn ym mis Hydref i drafod cynnydd y myfyrwyr dros yr haf ac i osod aseiniad 1, sef i drafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas a’r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny.
3. Cynhelir gweithdy ym mis Tachwedd i gynorthwyo’r myfyrwyr gydag aseiniad 1 ac i osod aseiniad 2, sef cwblhau adroddiad o 3,000 o eiriau a fydd yn dadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo. Ceir cyfle yn yr adroddiad hwn hefyd i greu cynllun gweithredu ar gyfer datblygu medrau cyflogadwyedd y myfyriwr ymhellach.
Semestr 2 (Blwyddyn 2, tri seminar):
4. Ar ôl cwblhau'r cyfnod o brofiad gwaith, cynhelir cyfarfod er mwyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i drafod a gwerthuso eu profiadau ar lafar.
5 a 6. Yn ogystal, cynhelir dau sesiwn ar ddiwedd Blwyddyn 2 i feithrin medrau cyflogadwyedd ymhellach.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu meithrin wrth gwblhau'r adroddiad. Bydd sgiliau cyfathrebu ar lafar yn cael eu meithrin yn ystod y seminarau. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau cyfathrebu o bob math. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Amcan y modiwl yn ei gyfanrwydd yw i annog myfyrwyr i ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd ac asesir hwn yn yr adroddiad. |
Datrys Problemau | Bydd raid i'r myfyrwyr drefnu (gyda chymorth staff) lleoliad addas a phwrpasol ar gyfer eu profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i ddatrys problemau. |
Gwaith Tim | Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gymhwyso eu medrau dysgu i sefyllfa waith. Un o sgil-effeithiau'r modiwl fydd gwella dysgu a perfformiad y myfyrwyr wrth iddynt drosglwyddo agwedd mwy proffesiynol tuag at eu hastudiaethau o fyd gwaith i'r byd academaidd. |
Rhifedd | Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath. |
Sgiliau pwnc penodol | Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau penodol i Ddaearyddiaeth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyfle i ddefnyddio sgiliau ymchwil wrth drefnu'r profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau ymchwilio. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd raid i'r myfyrywr i gynhyrchu adroddiad graenus a fydd yn dadansoddi eu cyfnod o brofiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau technoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5