Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 3 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Mae aisefyll yn golygu ailgyflwyno elfennau penodol a fethwyd. | 100% |
Asesiad Semester | Llyfr gwaith syn cynnwys 20 tasg fer (gosodir un ym mhob darlith). | 75% |
Asesiad Semester | Traethawd 1500 o eiriau gan ymchwilio i thema un or darlithiau yn fwy manwl. Rhoddir dewis o gwestiynau i fyfyrwyr iddynt eu trafod yn y traethawd. Er mair myfyrwyr fydd yn gosod cyflymder y gwaith, gosodir dyddiadau cau terfynol i bob elfen. Bydd polisi safonol y Sefydliad Daearyddiaeth a wyddorau Daear mewn grym. Rhaid cwblau ddwy elfen yr asesiad er mwyn cael marc pasio yn seiliedig ar y perfformiad cyfansawdd. | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Mae'r modiwl yn cyflwyno i fyfyrwyr amryw agweddau ar amgylchedd Cymru yn y cyd-destun ffisegl a dynol, ac yn eu hannog i ystyried a deall yr ymwneud a geir lle y mae'r byd dynol a'r byd ffisegol yn cysylltau a'i gilydd. Gan adeiladu ar hyn bydd yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser, a'u gwerthfawrogiad o'r cyswllt rhwng amgylchedd Cymru a'r prosesu sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill. Dysgir y modiwl gan ddefnyddio darlithiau a recordiwyd yn ddigidol y bydd myfyrwyr yn eu clywed yn eu hamser eu hunain. Yn ogystal bydd myfyrwyr yn mynychu nifer o seminarau cynhaliol/sesiynau cymhorthfa.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn trafod y themau penodol isod:
Esblygiad a ffurf amgylchedd Cymru
- Daeareg a geomorffoleg Cymru (Dyfed Elis-Gruffydd)
- Cymru yn y cyfnod Cwaternaidd (Aled Rowlands)
- Poblogi Cymru (Dai Rogers)
- Cysylltiadau'r amgylchedd dynol: ichyd yr amgylchedd yng Nghymru (Aled Rowlands)
- Natur ac economi Cymru (Rhys Jones)
- Datblygiad cynaladwy yng Nghymru (Rhys Jones)
- Tirweddau Gwarchod yng Nghymru (Dyfed Elis-Gruffydd)
- Gwleidyddiaeth amgylcheddol ffermydd gwynt yng Nghymru (Dai Rogers)
- Dychmygu'r Gymru ddiwydiannol (Pyrs Gruffudd)
- Dychmygu'r Gymru wledig (Pyrs Gruffudd)
Nod
Amcanion y modiwl hwn yw: (1) cyflwyno daearyddiaeth ffisegol a dynol Cymru i fyfyrwyr; (2) annog myfyrwyr i ddeall yr ymwneud a geir rhwng prosesau ffisegol a dynol yng Nghymru; (3) gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r newidiadau a geir yn y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yng Nghymru dros amser; (4) hybu dealltwriaeth myfyrwyr o'r cyswllt sydd rhwng amgylchedd Cymru a phrosesau sy'n digwydd ar raddfeydd daearyddol eraill; (5) datblygu sgiliau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg mewn TG a thrin gwybodaeth.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4