Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno unrhyw elfennau na lwyddodd a/neu darparu unrhyw elfennau coll. | |
Asesiad Semester | Cadw Dyddlyfr BwrddDu AberLearn er mwyn olrhain eu datblygiad parhaus (1,000 o eiriau). | 20% |
Asesiad Semester | Cyfansoddi lleiafswm o 4 cerdd wreiddiol, ynghyd ag esboniad beirniadol 2,000 o eiriau i gyd-fynd a?r casgliad. | 60% |
Asesiad Semester | Dadansoddiad o ffurf testun barddonol (1,000 o eiriau) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
cwblhau ymarferion barddol; dangos ymwybyddiaeth o'r dulliau cyfansoddi unigol, gan ysgrifennu'r hunanfeirniadol am eu cryfderau a'r nodweddion eu hunain fel beirdd.
amgyffred y posibiliadau sydd ar gael i feirdd wrth gyflwyno deunydd ar ffurf barddoniaeth; deall rhai o'r canlyniadau sy'r deillio o ddewis un ffurf rhagor na ffurf arall; arddangos ymwybyddiaeth o ystod eang o ddulliau barddoni yn eu gwaith creadigol a beirniadol eu hunain.
gwerthfawrogi'r agweddau allweddol ar y berthynas rhwng testunau a chyd-destunau.
Dangos y gallu i wella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth trwy addasu ac adolygu testunau a drafodwyd yng ngweithdai'r modiwl.
Disgrifiad cryno
Trwy ganolbwyntio ar ffurfiau'r canu caeth a rhydd, bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu rhychwant eang o ddulliau ysgrifennu barddoniaeth ac yn rhoi canllaw iddynt ymateb i ofynion llenyddol yn ol natur y testun, y gynulleidfa, genre a'r arddull.
Nod
Bwriad y modiwl hwn yw ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r posibiliadau creadigol sydd ar gael i feirdd cyfoes yng Nghymru a thu hwnt a, thrwy hynny, i ymestyn ffiniau eu gweithiau creadigol eu hunain.
Cynnwys
- Dadansoddiad technegol/thematig o waith beirdd enghreifftiol (2 sesiwn dwyawr; darlith a seminar i ddilyn)
- Mathau o farddoniaeth (1 sesiwn dwyawr)
- Dulliau'r canu rhydd: y delyneg draddodiad, y soned, y rhigwm (3 sesiwn dwyawr)
- vers libre (1 sesiwn dwyawr)
- Y gynghanedd a ffurfiau Cerdd Dafod; (3 sesiwn dwyawr, un ohonynt yn weithdy)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a damcaniaethau newydd mewn trafodaethau ynghylch barddoniaeth. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. Gw. hefyd 9 isod. |
Datrys Problemau | Bydd problemau sy’n deillio o’r broses greadigol ymarferol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | Na |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu gweithiau barddol yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol a fynegir mewn seminarau gan eu tiwtoriaid a’u cyd-fyfyrwyr. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu testun(au) barddonol i safon broffesiynol a soffistigedig. Anogir myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith ar Flog Adran y Gymraeg ac mewn cylchgronau llenyddol proffesiynol megis Barddas, Taliesin, Tu Chwith. |
Sgiliau ymchwil | Mae sgiliau ymchwil yn hanfodol i’r aseiniadau a osodir ar y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes, diwylliant a damcaniaethau beirniadol drwy astudio a dadansoddi rhychwant o destunau barddol o wahanol gyfnodau hanesyddol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, a dangos ymwybyddiaeth ynghylch llunio a chyhoeddi testunau electronig. Defnyddio BwrddDu AberLearn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7