Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair) | 70% |
Asesiad Semester | Aseiniad Ail Bwnc (1700 gair) | 20% |
Asesiad Semester | Detholiad Ymarfer Dysgu (600 gair) | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Prif Bwnc (4000 gair) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ail Bwnc (1700 gair) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Detholiad Ymarfer Dysgu (600 gair) | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth sicr o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn CA3 a CA4 ac ôl-16 lle bo'n berthnasol
Dangos ymwybyddiaeth o gynnwys y pwnc a chwricwlwm is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*
Cynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn
Trafod a dadansoddi'n feirniadol sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol â hynny
Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni
Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tîm (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*
Gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol ac adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.
- Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig
Cynnwys
Bydd y themau cynnwys ar gyfer y pum wythnos yn y brifysgol fel a ganlyn a byddant yn tynnu ar enghreifftiau o adnoddau dysgu ac addysgu sy'n gymwys i addysgu'r prif a'r ail bwnc methodoleg (lle bo'n berthnasol).
Prif Bwnc Methodoleg (8-10 awr/wythnos*)
1. Cyflwyniad i anghenion amrywiol dysgwyr
2. Cyflwyniad i gwricwlwm y prif bwnc methodoleg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a lle bo'n berthnasol, ol-16
3. Cyflwyniad i'r Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig, Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang
4. Cyflwyniad i asesu yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 a lle bo'n berthnasol, ol-16, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a Llwybrau Dysgu
5. Cyflwyniad i'r defnydd effeithiol o TGCh
6. Cyflwyniad i strategaethau rheoli dosbarth
7. Cyflwyniad i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'n heriol ac yn berthnasol i'r holl ddysgwyr
8. Cyflwyniad i addysgu gwersi sy'n strwythuredig, amrywiol, symbylol a rhyngweithiol
9. Cyflwyniad i wahaniaethu gan gynnwys y rheini ag AAA ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
10. Cyflwyniad i fonitro, asesu a chofnodi cynnydd dysgwyr a'r defnydd o asesiadau i wella agweddau penodol o addysgu, a gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr;
Is-Bwnc Methodoleg (2 awr/wythnos) (lle bo'n berthnasol)
1. Cyflwyniad i gwricwlwm yr is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3
2. Cyflwyniad i asesu'r is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3
3. Cyflwyniad i strategaethau rheoli dosbarth
4. Cyflwyniad i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'n heriol ac yn berthnasol i'r holl ddysgwyr
5. Cyflwyniad i addysgu gwersi sy'n strwythuredig, amrywiol, symbylol a rhyngweithiol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy weithgareddau gweithdy, bydd rhaid i hyfforddeion rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chant eu hannog i fynegi eu barn a'u safbwyntiau ar faterion addysgol (heb ei asesu). Mae'r adolygiad beirniadol o'u datblygiad proffesiynol yn elfen allweddol o'r modiwl hwn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae cryfderau a blaenoriaethau hyfforddeion ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn ffurfio elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi i fyfyrwyr ddynodi'n gliriach y dystiolaeth sy'n profi eu cyflawniadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol, a bydd yn eu helpu i gwblhau Adran A o'r Proffil Mynediad Gyrfa fydd yn gweithredu fel crynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal a'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Sefydlu. |
Datrys Problemau | Bydd gofyn i hyfforddeion ddethol y strategaethau addysgu ac asesu mwyaf priodol ar gyfer testunau o fewn eu pwnc. Byddant hefyd yn ystyried yr agweddau at addysgu testunau trawsgwricwlaidd. |
Gwaith Tim | Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol mewn trafodaethau grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol mewn trafodaethau grwp. Caiff hyfforddeion eu hannog i archwilio eu profiadau Prif bwnc ac is-bwnc (lle bo'n berthnasol) yn eu Portffolio Datblygiad Proffesiynol. |
Rhifedd | Bydd y sgil allweddol hwn yn cael sylw mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth. |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau sy'n ymwneud ag addysgu'r prif bwnc methodoleg. |
Sgiliau ymchwil | Bydd yn ofynnol i hyfforddeion syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth yn ymwneud a materion perthnasol wrth addysgu eu prif a/neu is-bwnc (lle bo'n berthnasol). |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r We i ddibenion ymchwil a hefyd llunio'r aseiniad ar brosesydd geiriau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6