Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x Darlith/Seminar 2 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | Gweithdy 1 x 2 awr bob pythefnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dernyn ymarferol Grwp (20 munud) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd (2500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Dernyn ymarferol unigol (10 munud) a sylwebaeth | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos dealltwriaeth o'r egwyddorion addysgiadol, theatraidd a deallusol cyfredol sy'n dylanwadu ar weithgarwch Theatr Gymhwysiedig.
2. Arddangos gallu i gyfrannu'n gadarnhaol at waith ymarferol, gan ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, creadigol a sgiliau ymchwil wrth greu dernyn ymarferol o Theatr Gymhwysiedig.
3. Arddangos gallu i gyflwyno dealltwriaeth o'r modd y mae proses yn rhan allweddol bwysig o'r profiad o gyflwyno Theatr Gymhwysiedig i'r perfformiwr ac i'r gynulleidfa.
4. Arddangos gallu i adfyfyrio'n deallus, yn ymarferol ac ysgrifenedig, ar y berthynas rhwng perfformwyr a chyfranogwyr mewn digwyddiadau Theatr Gymhwysiedig.
Nod
Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth o'r egwyddorion, yr ymarfer a'r ystod o wahanol fathau o Theatr Gymhwysiedig. Fe fydd hefyd yn trafod perthynas y mathau hyn o waith gyda syniadau sylfaenol ynglyn a theatr, addysg ac Astudiaethau Theatr fel pwnc.
Trwy gyfuno cyfres o weithdai ymarferol gyda gwaith darllen theoretig ac astudiaethau achos o wahanol ymarferwyr, fe fydd y modiwl hwn yn ehangu gwybodaeth y myfyrwyr o ymarfer theatraidd cyfoes, a datblygu'r gallu i ddadansoddi'r perthnasau cymhleth sy'n bodoli rhwng theori ac ymarfer yn y maes hwn.
Disgrifiad cryno
Cynlluniwyd y modiwl hwn er mwyn cynnig cyflwyniad i theatr Gynhwysiedig trwy ddadansoddi gwaith nifer o ymarferwyr blaenllaw, o Brydain a thu hwnt, o'r gorffennol a'r presennol. Fe fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth ymarferol o'r sgiliau a'r prosesau sy'n hanfodol wrth greu Theatr Gymhwysiedig, ac yn gosod enghreifftiau cyfredol o ymarfer mewn cyd-destun hanesyddol a theoretig. Disgwylir i'r myfyrwyr gymhwyso'r ymwybyddiaeth a'r wybodaeth honno trwy ddyfeisio dernyn ymarferol o waith Cymhwysiedig fel rhan o asesiad y modiwl.
Cynnwys
1. Diffiniadau o Theatr Gymhwysiedig a'r theoriau mwyaf blaenllaw.
2. Theatr-mewn-Addysg (ThMA), theatr gymunedol a pherfformio radical.
3. ThMA fel cyfrwng dysgu: diffiniadau a chyd-destun.
4. Hyrwyddwyr, cyfarwyddwyr a chyfranogwyr-berfformwyr: eu roliau gwahanol.
5. Ariannu, gwleidyddiaeth a'r Cwricwlwm Cenedlaethol: Perthynas y gwaith ag awdurdod.
6. Theatr mewn ysbytai, carchardai a thu hwnt.
7. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy.
8. Y gynulleidfa a'r gofod.
9. Technegau Ymchwil.
10. Gwerthuso rhaglenni Theatr Gymhwysiedig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Un o sylfeini'r modiwl fydd datblygu gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu gyda'i gilydd a gyda chynulleidfaoedd o fathau gwahanol. Fe fydd y ddau asesiad yn ystyried a gwerthuso gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu'n ebrwydd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe fydd y gwahanol fathau o gyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a drafodir ar y modiwl (yn ogystal a'r ystod eang o roliau y disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a hwy wrth baratoi'r Dernyn Ymarferol) yn galluogi'r myfyrwyr i ystyried y gwahanol osiynau ar gyfer gyrfa yn y maes hwn yn fwy eglur. |
Datrys Problemau | Fe fydd nodi problemau, datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau, a gwerthuso atebion posibl yn elfennau allweddol o'r modiwl hwn. Canolbwynt gwaith nifer o ymarferwyr a chyfranogwyr mewn darnau Theatr Gymhwysiedig yw ceisio dyfeisio strategaethau er mwyn datrys problemau, ac fe archwilir y pwyslais arbennig hwn ar ddatrys problemau yn fanwl yn ystod y modiwl. |
Gwaith Tim | Mae datblygu sgiliau gwaith tim yn rhan gynhenid o'r modiwl (o ran astudiaeth o astudiaethau achos y darlithoedd a'r broses o gydweithio mewn grwp). Fe fydd yn cael ei asesu wrth i diwtor y modiwl ystyried cyfraniad y myfyrwyr i waith dosbarth a gweithdy ac wrth greu'r Dernyn Ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd disgwyl i'r myfyrwyr werthuso eu cyrhaeddiad a'u perfformiad eu hunain fel prawf o'u dealltwriaeth o'r modiwl ac o'r dulliau darganfyddol o addysgu y mae'n eu cyflwyno. |
Rhifedd | Cyfeirir at faterion yn ymwneud a chyllido a sicrhau nawdd cyhoeddus ar gyfer Theatr Gymhwysiedig wrth gyflwyno'r modiwl, ond ni ddatblygir y sgiliau hyn yn neilltuol. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd y myfyrwyr yn archwilio ystod o wahanol dulliau o greu perfformiadau Theatr Gymhwysiedig ar gyfer cymunedau a chynulleidfaoedd penodol. |
Sgiliau ymchwil | Cyflwynir nifer o sgiliau a strategaethau ymchwil (fel sy'n gyson a'r gwahanol mathau o theatr a'r gwahanol gyd-destunau ymarferol a gyflwynir wrth drafod Theatr Gymhwysiedig). Fe fydd cyfle i'r myfyrwyr i gymhwyso'r rhain a datblygu eu sgiliau ymchwil eu hunain trwy baratoi ar gyfer, ac yn sgil, darlithoedd a'r gweithdai ymarferol; ac fe gant eu hasesu mewn perthynas a'r Traethawd a'r Dernyn Ymarferol o berfformiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn benodol yn ystod y modiwl, os fyddant yn ddefnyddiol ac fe all myfyrwyr eu datblygu a'u hymestyn wrth gyflawni eu gwaith ymchwil eu hunain, e.e. wrth gasglu a threfnu gwybodaeth am ymarferwyr, cynulleudfaoedd ac adnoddau perthnasol. Disgwylir y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd eang o'r rhyngrwyd yn ystod y gwaith hwn ar y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5