Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 'Tiwtorial adborth' unigol am 10 munud ar gyfer pob aseiniad a gyflwynir |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth o brif ddigwyddiadau hanes Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol yn y cyfnod rhwng 1860 a'r mileniwm newydd, ynghyd â deall prif syniadau a mudiadau'r oes a'u heffaith ar gymdeithas Cymru.
Myfyrio ar a dadansoddiâ'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.
Gweithioâ'n annibynnol ac mewn tîm.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themâu pwysig yn hanes modern Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at droad y mileniwm. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn Hanes Cymru yn rhan 2.
Cynnwys

Disgrifiad cryno

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Rhifedd | n/a |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud â'r cyfnod dan sylw yn hanes Cymru. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4