Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 30 awr (Yn Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 awr. 3 x 1 awr yn Gymraeg pob semester. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad ar ddiwedd Semester 1 . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad. | 50% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad ar ddiwedd Semester 2 . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad. | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad Semeseter 1 (Ailsefyll yr elfen a fethir) . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad. | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad Semeseter 2 (Ailsefyll yr elfen a fethir) . Caiff ymgeiswyr gopiau, heb eu marcio, o 'a case' yn neuadd yr arholiad. Peidiwch a dod mewn a'r copiau a gawsoch cyn yr arholiad. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Egluro a dangos dealltwriaeth o strwythur a datblygiad y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a'r rheiny sy'n chwarae rhan ynddi
2. Egluro defnydd ac arwyddocad cynsail farnwrol a'i pherthynas a chyfundrefn y llysoedd
3. Dadansoddi'n feirniadol y prosesau wrth lunio deddfwriaeth
4. Dadansoddi, a dangos dealltwriaeth o'r proses o ddehongli statudol barnwrol
5. Dangos gwybodaeth ynghylch ffurfiau amgen o ddatrys cynnen ac asesu eu hyfywedd a'u defnyddioldeb
6. Dangos gallu i ddod o hyd i wybodaeth gyfreithiol wrth ddefnyddio dulliau ymchwil electronig a chopi caled er mwyn dangos lefel sylfaenol o gymhwysedd wrth leoli a defnyddio prif ffynonellau a ffynonellau eilaidd y gyfraith
7. Dehongli, gwerthuso a dadansoddi'n feirniadol brif ffynonellau a ffynonellau eilaidd y gyfraith a'u haddasu wrth resymu'n gyfreithiol
8. Dangos sgiliau nodi achosion a datrys problemau
9. Dangos gallu i drefnu syniadau a dadleuon wrth addasu'r gyfraith i sefyllfaoedd o ffaith
10. Llunio dadleuon cyfreithiol a defnyddio rhesymu cyfreithiol wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
Disgrifiad cryno
(ii) Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio'r Gyfraith yn y Brifysgol drwy eu cyflwyno i'r ystod o sgiliau y bydd yn rhaid iddynt eu meistroli os ydynt am lwyddo yn yr astudiaethau hynny. Bydd hyn yn cynnwys darllen deddfwriaeth ac achosion; dadansoddi beirniadol; ysgrifennu traethodau; nodi achosion a datrys problemau.
Cynnwys
2. Swyddogaethau'r gyfraith a Chyfundrefn y Llysoedd
3. Sut y mae cynseiliau yn gweithio; darllen achosion a nodi achosion (bydd hyn yn cynnwys ymarfer ymarferol yn y ddarlith ar nodi achosion)
4. Deddfwriaeth; darllen deddfwriaeth a dehongli'n statudol
5. Datrys problemau mewn perthynas a throseddau cyfraith gwlad a deddfwriaethol (bydd pob un o'r darlithoedd datrys problemau yn gysylltiedig ag ymarfer ymarferol i'w baratoi gan y myfyrwyr cyn y darlithoedd)
6. Dadansoddi achosion a sylwebaethau'n feirniadol eto, ymarferion ymarferol ar sut i ddadansoddi'n feirniadol.
7. Pobl ym myd y gyfraith, yn cynnwys proffesiwn y gyfraith; ynadon heddwch; y farnwriaeth; a'r rheithgor
8. Sgiliau pellach: Ysgrifennu traethodau a throednodiadau; paratoi ar gyfer arholiadau; ac osgoi ymddygiad annheg
9. Tribiwnlysoedd; gweithdrefnau ymchwiliol a gwrthwynebus
10. Y dull amgen o ddatrys cynnen a chyd-drafod
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu (llafar) - Paratoi, a thrafod, mewn seminarau gwrthwynebus Cyfathrebu (ysgrifenedig) - Yn yr arholiad, defnyddio cyfraith achosion mewn sefyllfaeoedd cyfreithiol a ffeithiol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith |
Datrys Problemau | Paratoi a thrafod cwestiynau datrys - problemau mewn darlithoedd a seminarau |
Gwaith Tim | Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp yn arbennig mewn seminarau gwrthwynebus lle bydd grwpiau myfyrwyr yn dadlau dros egwyddorion cyfreithiol sefydlog ac yn eu herbyn |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd, a pharatoi seminarau, yn cynnwys paratoi nodiadau achosion ysgrifenedig a dadansoddiadau beirniadol |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion. Darllen prif ffynonellau achosion a deddfwriaeth Datrys problemau; dadansoddi beirniadol a nodi achosion (Asesir ambell elfen) |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd; paratoi seminarau |
Technoleg Gwybodaeth | Mewn darlithoedd; ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd; ac wrth baratoi seminarau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6