Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Supplementary Examination | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Supplementary Assessment | 40% |
Asesiad Semester | Semester Assessment 2 draethawd (1,500 o eiriau yr un) | 40% |
Asesiad Semester | Semester Assessment 1 prosiect (5,000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifiad cryno
Sut mae clywed lleisiau’r oesoedd canol? A oes posib cael syniad iawn o sut oedd pobl yn teimlo a sut oeddent yn meddwl? I ba raddau mae’n bosibl cael at y ‘gwirionedd’ wrth edrych ar ffynonellau’r cyfnod? Dyma’r materion y bydd y modiwl hwn yn ymdrin â hwy. Wrth edrych ar ffynonellau llenyddol o’r cyfnod, yn enwedig barddoniaeth, byddwn yn trafod pa mor agos maent yn dod â ni at adnabod y bobl a’r gymdeithas a’u cynhyrchodd. Mae corff mawr o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru’r oesoedd canol ac maent yn amrywiol iawn yn eu natur. O’r doniol i’r difrifol, o’r rhywiol i’r crefyddol, o ganmol i wawdio, maent i gyd yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol o gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfela, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, credoau, emosiynau a dioddefaint. Wrth astudio’r ffynonellau, yn eu ffurf gwreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd ffynonellau llenyddol a’r modd y gellir eu defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau a syniadau’r gorffennol.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6