Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 darlith awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 seminar awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr 1 arholiad 2 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o ddiffiniadau gwahanol o ymyrraeth ddyngarol
2. Dadansoddi'r feirniadol y gwahanol agweddau moesegol tuag at ddefnyddio grym i ddod ag argyfyngau dynol i ben
3 Gwerthuso cyd-destun cyfreithiol ymyrraeth ddyngarol
4. Arddangos dealltwriaeth o gyd-destun gwleidyddol y dadleuon cyfoes am sofraniaeth ac ymyrraeth
5. Arddangos gallu i gysylltu materion cysyniadol ag achosion empeiraidd penodol
Cynnwys
- Ymyrraeth y gorllewin yn Irac 1991-1992
- Ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig/UDA yn Somalia yn y cyfnod 1992-1995
- Y diffyg ymyrraeth adeg hil-laddiad Rwanda yn 1994
- Ymyrraeth NATO yn Kosovo yn 1999. Daw'r modiwl i ben wrth ystyried dyfodol ymyrraeth ddyngarol wedi Medi'r 11eg.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn ceisio darparu hyfforddiant israddedig yn namcaniaeth ac ymarfer ymyrraeth ddyngarol. Mae'r cwestiwn sut ddylai'r gymuned ryngwladol ymateb pan fo gwladwriaethau'r cyflawni troseddau mawr systematig yn erbyn hawliau dynol yn cynnig sialens sylfaenol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion gwleidyddol, cyfreithiol, strategol a moesegol sy'r ynghlwm a'r defnydd o rym i rwystro'r fath droseddau. Mae myfyrwyr yn archwilio sut mae'r ystyriaethau gwleidyddol, cyfreithiol, moesegol a strategol a gyflwynir ar ddechrau'r modiwl yn berthnasol i achosion penodol o ymyrraeth.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6