Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 Darlith-Seminar 2 awr |
Eraill | 10 Sesiwn wylio 3 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (3000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd (3000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Datblygu dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol a diwydiannol sinema prif ffrwd America drwy astudio cyfnod 'clasurol' Hollywood a'r system stiwdio; Arddangos dealltwriaeth o arferion cynhyrchu - o derminoleg dechnegol i benderfyniadau estheteg, a'r dewisiadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr - trwy astudio ardull Hollywood Glasurol
Ddechrau datblygu ymwybyddiaeth o brif themau a gogwyddau beirniadol sy'n bodoli o fewn disgyrsiau a gysylltir a Hollywood Glasurol.
Ddadansoddi amrediad o ffilmiau a ddangosir mewn modd addas ar gyfer lefel eu hastudiaeth.
Disgrifiad cryno
Ystyrir y blynyddoedd rhwng 191501960 fel 'Oes Aur' y sinema, sef y cyfnod lle sefydlwyd holl godau a chonfensiynau naratifol y cyfrwng. Dadleua nifer bod pwysigrwydd y cyfnod yn parhau hyd heddiw, a phob cyfarwyddwr yn ymateb i'r confensiynau hynny, naill a'i trwy eu cofleidio a'u hail adrodd, neu trwy eu gwrthod a'u gwyrdroi. Sinema Hollywood Glasurol yw'r disgwrs dominyddol felly ym myd y sinema, y canol llonydd sy'n ysgogi ymatebion gwahanol. Mae'r modiwl yn cyflwyno terminoleg sylfaenol y maes wrth deehongli damcaniaethau ffilm amrwyiol. Cymhwysir y damcaniaethau i'r cyfnod clasurol, cyn ei gymwhyso i sinema Hollywood gyfoes.
Cynnwys
1. Hanes a'r System Stiwdio
2. Sinematograffaieth
3. Golygu
4. Dyfodiad Sain
5. Naratif Hollywood Glasurol
6. Ideoleg
7. System Ser
8. Genre
9. Awduriaeth
10. Cynrychioli: Rhyw, Hil a Rhywioldeb
Seminarau:
1. Beth yw astudio ffilm yn academaidd?
2. Dadansoddi Siot wrth siot
3. Dadansoddi Testun
4. Hollywood Ol-Glasurol
5. Darllen yn Feirniadol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol i'r modiwl |
Sgiliau pwnc penodol | Gweler ASA, Datganiadau Meincnodau Pynciau, Communication, Media, film and Cultural Studies (2008) |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5