Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 14 Awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad ar lafar (10 munud) | 35% |
Asesiad Semester | Adroddiad 1500 o eiriau | 30% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad (Yn cynnwys cwestiynau byr a thraethawd) | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Ail gyflwyno y cwrs tymor uchod | 65% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad ail sefyll | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
bydd gan fyfyrwyr wybodaeth eang am bynciau sy'n ymwneud ag effaith dyn ar y blaned (yn lleol ac ar raddfa fyd-eang)
bydd myfyrwyr yn ymwybodol o (ddeddfwriaeth) gyfrifoldeb amgylcheddol
bydd myfyrwyr yn gallu cynnig datrysiadau i wella effeithlonrwydd amgylcheddol ar lefel lleol (yn enwedig yn amgylchedd busnes)
bydd myfyrwyr yn gallu ymdrin a chyllidebau carbon, sylweddoli cyfrifoldeb amgylcheddol a chynnig dulliau o leihau a gwrthbwyso allyriannau carbon.
bydd myfyrwyr yn hyderus wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gywir ac yn eglur, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Nod
Mae'r modiwl yn gosod sylfeini generig rhagorol ym maes effeithlonrwydd amgylcheddol, a hynny'r berthnasol i nifer o gynlluniau gradd lefel Meistr o fewn cyfadrannau'r Celfyddydau a'r Gwyddorau. Agwedd bwysig arall yw'r ffaith ei fod hefyd yn ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth i `wyrddio? cwricwlwm y prifysgolion.
Disgrifiad cryno
Mae hwn yn fodiwl newydd sy'r ymdrin a chyfrifoldeb amgylcheddol, effaith dyn ar y blaned a'r angen cynyddol i fyw'r fwy cynaliadwy. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.
Cynnwys
Mae ethos y modiwl yn golygu bod rhaid i'r dulliau dysgu fod yn effeithlon o safbwynt yr amgylchedd. Darperir darlithoedd yn electronic ac mae'r deunydd yn cynnwys sgriptiau darlithoedd hunan ddysgu. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio'r strwythur hwn i fynd drwy ddeunydd y darlithoedd ar eu cyflymdra eu hunain. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod a syntheseiddio deunydd y darlithoedd mewn tiwtorialau a gweithdai sy'r gysylltiedig a'r darlithoedd hynny. Mae'r modiwl hefyd yn cynnwys flwyniad amgylcheddol sy'n seiliedig ar nifer o astudiaethau achos. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.
Rhestr Ddarllen
E Harland (2002) Eco-renovation p242 Green Books Publications Chwilio Primo R Murray (2002) Zero Waste GReen p211 Environmental Trust publications Chwilio Primo Wastebusters Ltd (2000) The Green Office Manual p306 2nd edition Earthscan publications Chwilio Primo http://cat.org.uk/ http://www.lsda.org.uk/Sustainable/Toolkit/
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7