Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 22 x darlith 1 awr |
Eraill | 2 x ymweliad x 5 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Gwaith cwrs: Adroddiad ar ymweliadau maes. | 50% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad (Awr a hanner, dau ateb byr) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Amlinellu eu dosbarthiad mewn ystod o systemau priodol;
2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar eu datblygiad;
3. Egluro rôl dyn yn eu datblygiad hanesyddol;
4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol ohonynt a phynciau sy'n codi o ganlyniad;
5. Adnabod eu gwerth, eu statws a'u potensial o ran cadwraeth.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd âr. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr â'u gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethu fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisiau a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.
Cynnwys
Dosbarthu cynefinoedd, y prif fathau o gynefin a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar eu datblygiad.
Systemau hanesyddol a modern rheoli a'u heffaith ar y cynefin.
Defnydd masnachol a defnyddiau eraill.
Statws ac amodau cadwraeth.
Rhywogaethau a chymunedau allweddol o ddiddordeb cadwraethol.
Polisiau, cynlluniau a mecanweithiau eraill ar gyfer cadw a rheoli'r cynefin
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Adroddiadau i’w hysgrifennu mewn arddull ysgrifennu gwyddonol briodol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Sgiliau maes. |
Datrys Problemau | |
Gwaith Tim | Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o adroddiad a asesir. |
Sgiliau pwnc penodol | Adnabod planhigion yn y maes. |
Sgiliau ymchwil | Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data. |
Technoleg Gwybodaeth | Cyflwynir data ar ffurf graffiau gan ddefnyddio Excel mewn adroddiadau a asesir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4