Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA11310 trwy gyfrwng y Saesneg). |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Awr (4 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial). |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 80% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 100% |
Asesiad Semester | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. disgrifio'r syniad o gydamrywiant.
2. mesur cymedrau ac amrywiannau cyfuniadau llinellol o hapnewidion.
3. adnabod ffwythiannau tebygolrwydd addas ar gyfer sefyllfa benodol.
4. disgrifio modelu yn nhermau treialon Bernoulli a digwyddiadau hap.
5. defnyddio ffwythiannau i ddarganfod momentau a braslunio cromliniau.
6. asesu gwerth penodol mewn perthynas â gradd ffwythiant tebygolrwydd penodol.
7. mesur cymedrau a chyfranneddau o ddata.
8. esbonio'r defnydd o'r prawf ystadegol.
9. adeiladu a chynnal profion syml.
10. defnyddio tablau ystadegol perthnasol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn anelu at ddatblygu modelau tebygolrwydd cyffredin sy'n gymwys ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ynghyd ag egluro eu defnydd mewn cyd-destun ystadegol. Mae cyflwyniad i'r ddamcaniaeth o amcangyfrif hefyd yn cael ei gynnwys.
Nod
I gyflwyno Ystadegaeth i fyfyrwyr Mathemateg.
Rhestr Ddarllen
Testun Ychwanegol AtodolWackerley, D.D., Mendenhall, W. & Scheaffer, R.L. (2002) Mathematical Statistics with Applications 6th Duxbury Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4