Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar rhagarweiniol + 6 seminar x 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 2 X TRAETHAWD 3,500 O EIRIAU | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth o themau a dulliau a ddefnyddir o fewn hanes meddygaeth
Deall a gwerthuso datblygiadau diweddar o fewn hanes meddygaeth
Deall y defnydd o dystiolaeth berthnasol wrth greu dadleuon hanesyddol ynglyn a meddygaeth a chymdeithas
Arddangos gallu i ddefnyddio themau methodolegol yn eu gwaith ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw galluogi myfyrwyr i astudio un o brif themau hanes cymdeithasol modern - sef, iechyd a meddygaeth - mewn cyd-destun Cymreig. Yn gyntaf, bydd y modiwl yn astudio canlyniadau newidiadau economaidd a chymdeithasol ar iechyd. Astudir ymatebion i'r newidiadau hyn, yn nhermau syniadau gwyddonol a strategaethau sefydliadol. Ystyrir iechyd meddwl, gan gynnwys agweddau cymdeithasol tuag at wallgofrwydd a datblygiad gwallgofdai, ac wedyn datblygiad ysbytai yng Nghymru. Yn olaf, dadansoddir canlyniadau dirwasgiad economaidd y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd a'r cyfundrefnau meddygol unigryw a geid yn ne Cymru a oedd mor bwysig i ddatblygiad y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol
Nod
Bwriad y modiwl yw galluogi myfyrwyr i astudio un o brif themau hanes cymdeithasol modern - sef, iechyd a meddygaeth - mewn cyd-destun Cymreig. Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ar hanes meddygaeth yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf; gwaith sydd yn archwilio dylanwad nodweddion cymdeithasol, economaidd a daearyddol nodedig ar iechyd a'r ddarpariaeth gwasanaethau meddygol yng Nghymru. Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddeall ac astudio'r maes mewn dyfnder.
Cynnwys
2. Diwydianeiddio, trefoli ac argyfwng iechyd cyhoeddus y 1830au
3. Cyfunoliaeth a Diwygiad Glanweithdra
4. Gwallgofrwydd a Chymdeithas
5. Ysbytai a Sefydliadau Eraill
6. Y Gydwybod Gymdeithasol: Iechyd a Meddygaeth rhwng y Ddau Ryfel Byd
7. Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol
Tiwtorial unigol ar gyfer pob traethawd a gyflwynir (2awr)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dangos a datblygu'r gallu i gyfathrebu syniadau trwy'r seminarau a'r traethodau. Asesir yr olaf yn unig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd a gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r yrfa |
Datrys Problemau | Arddangos sut mae haneswyr wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau methodolegol i ddeall y problemau yn y maes. |
Gwaith Tim | Trwy waith seminar. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwella'u dysgu a'u perfformiad yn ystod seminarau a thrwy adborth y traethodau. |
Rhifedd | Dangos perthnasedd ystadegau i hanes meddygaeth. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu deallusrwydd methodolegol o hanes meddygaeth ac ymwybyddiaeth o'r prif ddulliau a'r hanesyddiaeth. |
Sgiliau ymchwil | Dysgu sut i ddod o hyd i ffynonellau eilradd addas ac wedyn defnyddio'r ffynonellau hyn yn eu gwaith. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7