Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 20 seminarau. 1 x 2 awr yn Gymraeg bob wythnos drwy linc fideo yn semester 1 a semester 2 |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Arholiad - os caiff yr arholiad ei fethu | 67% |
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad . Rhaid i fyfyrwyr ateb Tri chwestiwn.Bydd ar y papur Arholiad chwech cwestiwn, tri yn Adran A a thri yn Adran B. Rhaid i fyfyrwyr ateb o leiaf un cwestiwn or ddwy adran. NI chaniateir dod ag unrhyw destunau na nodiadau o unrhyw fath i mewn ir ystafell arholiad. | 67% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2500 o eiriau - os caiff yr traethawd ei fethu | 33% |
Asesiad Semester | Traethawd 2500 o eiriau. | 33% |
Canlyniadau Dysgu
Ar derfyn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
1. Disgrifio, esbonio, dadansoddi a gwerthuso datblygiad y sefydliadau a'r gyfraith yng Nghymru wedi datganoli, gan eu perthynu i'w hachosion a'u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol:
2. Disgrifio, esbonio, dadansoddi a gwerthuso datblygiad y gyfraith yng Nghymru yn ystod y cyfnodau hanesyddol a astudir.
3. Pan gaiff gwestiwn neu ddatganiad medr y myfyriwr wneud y canlynol:
- dangos gwybodaeth gywir o ddatblygiad y meysydd cyfraith hynny sy berthnasol i werthuso'r gosodiad sydd yn y cwestiwn neu'r datganiad;
- datgan y dadleuon perthnasol dros ac yn erbyn y cyfryw osodiad er mwyn ei werthuso mewn dull diduedd;
- dyfynnu'n gywir yr awdurdodau cyfreithiol a'r farn ysgolheigaidd sydd yn cefnogi neu'n gwrthbrofi'r dadleuon hynny;
- asesu a gwerthuso'n gywir gryfderau a gwendidau'r dadleuon hynny;
- datgan casgliad rhesymegol am y dadleuon hynny, gan ddefnyddio, lle bo hynny'n briodol, gymhariaeth o'r agwedd gyfoes at y pynciau a godwyd ag agwedd cyfnodau neu gyfundrefnau cyfreithiol eraill y mae'r myfyriwr yn gyfarwydd a^ hwy a pherthynu'r agweddau hynny at yr amgylchiadau penodol - gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol - y datblygasant ynddynt
- nodi'r ffynhonnell yn gywir a'r rheolau neu'r gweithdrefnau cyfreithiol y cyfeiria atynt;
- datgan yn gywir y pynciau a roes fod i'r broblem y bwriadwyd y rheol neu'r weithdrefn i'w datrys;
- asesu a gwerthuso i ba raddau y llwyddodd y rheol neu'r weithdrefn i ddatrys y materion hynny, gan roi dadleuon perthnasol dros ac yn erbyn mewn dull diduedd;
- datgan yn gywir unrhyw broblemau a ddeilliodd yn sgil hynny o'r rheol neu'r weithdrefn;
- datgan yn gywir unrhyw ddatblygiad perthnasol dilynol ar y rheol neu'r weithdrefn dan sylw;
- cymharu a gwrthgyferbynnu agwedd y ffynhonnell at y pwnc gydag agwedd cyfnodau neu gyfundrefnau cyfreithiol eraill y mae'r myfyriwr yn gyfarwydd a^ hwy a pherthynu'r agweddau hynny at yr amgylchiadau penodol - gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol - y datblygasant ynddynt.
4. cyflwyno yn gywir ac yn gryno mewn rhyddiaith Gymraeg a/neu Saesneg eglur asesiadau a gwerthusiadau hanesyddol gadarn o'r gosodiadau, barn am werth a ffynonellau yn ymwneud a^ datblygu'r sefydliadau a'r meysydd a nodwyd yn y deilliannau pwnc-benodol.
5. Bydd pwyslais y modiwlau hyn, fel yn holl fodiwlau Lefel 3 yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, ar y canlynol:
2.1 y gallu i gael trwy ymchwil unigol, annibynnol, i ddeall a gwerthuso'n feirniadol yr egwyddorion a'r manylion sy'n ymwneud a^'r maes pwnc, a chyfleu'r ddealltwriaeth a'r gwerthuso hwnnw ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn rhyddiaith Gymraeg a/neu Saesneg glir a rhesymegol;
2.2 y gallu i gymhwyso'r wybodaeth a enillwyd ac a ddeallwyd i ddatrys sefyllfaoedd ffeithiol yn ddadansoddol ac yn feirniadol;
2.3 y gallu i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth ar ffurfiau print ac electronig i ennill gwybodaeth am y pwnc trwy ymchwil annibynnol ac unigol;
2.4 y gallu i ddefnyddio sgiliau TG i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig wedi ei airbrosesu;
2.5 y gallu i drafod gydag eraill egwyddorion a manylion y pwnc a'u cymhwyso mewn dull rhesymegol, beirniadol ac effeithlon;
2.6 y gallu i drefnu amser astudio personol i gyrraedd y nod uchod.
Disgrifiad cryno
Mae'r cwrs yn archwilio datblygiad y gyfraith yng Nghymru o'r cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniaid hyd y dydd heddiw. Ceir astudiaeth fanwl o Ddeddfau Llywodraeth Cymru a Deddf yr Iaith Gymraeg, ynghyd a^'r dull y gweithredir darpariaethau'r statudau hynny yng Nghymru wedi datganoli, a barn ysgolheigaidd am hynny. Byddwn hefyd yn ystyried datblygiad y gyfraith yn ymwneud a^ llywodraeth, y teulu, perchenogaeth eiddo, creu oblygiadau ac iawndal a chosb am gamwri, ynghyd a^ mecanweithiau deddfwriaethol a barnwrol i greu a gorfodi rheolau cyfreithiol, gan gynnwys gwaith y proffesiynau cyfraith. Trwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn cael eu perthynu i newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd mawr.
Cynnwys
1. Trosolwg o'r Prif Ddatblygiadau Cyfreithiol yng Nghymru ers yr 1880au
2. Deddf yr Iaith Gymraeg
3. Deddf Llywodraeth Cymru 1998 - y Cynulliad a'r Llywodraeth
4. Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - Comisiwn Richard, y Papur Gwyn
5. Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - Trefniadaeth y Cynulliad, prif newidiadau, y dyfodol
6. Canllaw i waith ysgrifenedig Semester 1
7. Deddfwriaeth Gynradd ac Eilaidd yng Nghymru
8. Cymru yn y Deyrnas Unedig a Chymru yn Ewrop
9. Gweinyddu Cyfiawnder yng Nghymru
10. Sesiwn Adolygu
Semester Dau
11. Cyflwyniad i Ran Dau: y Gymru gyn-Rufeinig
12. Cyfnod y Rhufeiniaid a'r cyfnod o^l-Rufeinig
13. Hywel Dda a'r Cyfreithiau
14. Cyfraith Hywel Dda
15. Cyfraith Hywel Dda
16. Cyfraith Hywel Dda - Cyfnod y Normaniaid a'r Angywiaid
17. Wythnos Ddarllen
18. Y Goncwest Edwardaidd a'r Canol Oesoedd diweddar
19. Deddfau Uno'r Tuduriaid
20. Oes y Sesiwn Fawr a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6