Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 20 Hours. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Traethawd 3000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dylai'r myfyriwr ddeall prif nodweddion orgraffyddol, gramadegol a chystrawennol Hen Gymraeg a Chymraeg Canol.
2. Dylai fod yn medru trafod y rhain yn ddeallus, ac amgyffred y modd y mae'r iaith wedi newid drwy'r canrifoedd.
3. Dylai fedru brasegluro sut y datblygodd y Gymraeg o'r Frythoneg.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw cyflwyno Hen Gymraeg a Chymraeg Canol a dangos nodweddion orgraff, ffurfiant a chystrawen yr iaith yn y ddau gyfnod. Gall fod o ddiddordeb i'r sawl sy'n astudio Hanes yr Iaith (CY34320) gan ei fod fel petai yn rhagymadrodd i'r modiwl hwnnw. Canolbwyntir yn bennaf ar astudio nifer o destunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, ond edrychir hefyd ar ddatlygiad yr iaith o'r Frythoneg ac ar y problemau sy'n codi wrth astudio hanes dechrau ysgrifennu'r Gymraeg. Disgwylir i'r sawl sy'n dilyn y modwil ddarllen yr ymdriniaethau safonol a'r testun(au) gosod Hen Gymraeg.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6