Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG, AC IDDO 3 CHWESTIWN | 60% |
Asesiad Semester | 2 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu patrymau demograffig a threfoli yng Nghymru dros gyfnod o 250 mlynedd
Beirniadu ac asesu canlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol trefoli
Lleoli profiadau trefol o fewn cyd-destun ehangach hanes modern Cymru a Phrydain;
Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd sy'r gynyddol feirniadol a deallus.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr astudio un o'r brif ffactorau sydd wedi bod yn gyfrifol am newid cymdeithasol yn y cyfnod modern ? sef trefoli. Asesir y rhesymau dros dwf y trefi, ac astudir patrymau demograffig. Yna bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol trefoli. Beirniadir y dadansoddiad traddodiadol o gymunedau diwydiannol cynnar y de fel `Cymunedau ar y Ffin?, ac astudir digwyddiadau syfrdanol megis Terfysg Merthyr. Astudir trefoli mwy eang ail hanner Oes Fictoria mewn dyfnder. Bydd seminarau yn trafod amrywiol agweddau o fywyd trefol ? megis iechyd cyhoeddus, trosedd a moesoldeb, mewnfudo, rhaniadau daearyddol, a phatrymau hamdden ? a chymherir gwahanol drefi. Caiff datblygiad hunaniaeth a syniadaeth sifig sylw teilwng. Bydd rhan ola'r cwrs yn olrhain profiad trefol yr ugeinfed ganrif, gan astudio'r dirwasgiad, diwygio tai, cynllunio trefol, ail-lunio'r trefi ar ol y rhyfel, ac ail-ddatblygiad canol dinas yn y cyfnod cyfoes. Rhoddir cynnwys y modiwl o fewn cyd-destun syniadaethol sydd wedi datblygu o ganlyniad i ddatblygiad hanes trefol fel is-bwnc pwysig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.
Nod
Bydd y modiwl yn cynnig i fyfyrwyr i cyfle i astudio datblygiad cymdeithas yng Nghymru dros gyfnod hir, gan olrhain y trawsnewidiad o gymdeithas wledig i un trefol. Bydd myfyrwyr yn medru astudio sgil-effeithiau cymdeithasol y newidiadau hyn
Cynnwys
2. Theori ac ymarferiad hanes trefol
3. Trefi Cymreig a phatrymau demograffig o'r cyfnod modern cynnar
4. Datblygiad trefi baddon
5. Y trefi diwydiannol cynnar ? yr economi a'r `Gymdeithas ar y Ffin?
6. Y gymdeithas ar y ffin ac anghydfod gwleidyddol a chymdeithasol, 1800-1850
7. Trefoli yn y de a datblygiad y cymoedd
8. Trefoli yn y gogledd
9. Trosedd a moesoldeb yn y dre
10. Iechyd cyhoeddus a datblygiad rhwydweithiau peirianyddol
11. Twf hunaniaeth a balchder ddinesig
12. Mewnfudo a chymeriad ethnig y trefi
13. Hamdden torfol a diwylliant, 1870-1939
14. Trefi bach a diboblogi yng nghefn gwlad
15. Tai, cynllunio, a diwygio cymdeithasol
16. Y Cymry trefol oddi cartref ? Llundain, Lerpwl ac America
17. Ail-adeiladu wedi'r rhyfel
18. Y rhaniad trefol-gwledig, a diffinio hunaniaeth Gymreig
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd a thrwy drafodaethau?r seminar. Disgwylir, yn ogystal, i?r myfyrwyr wneud cyflwyniadau yn y seminarau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r trathodau. Ni asesir y cyflwyniadau ond rhoddir ymateb i?r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu?r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i?r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a gwneud ymchwil addas cyn y seminarau a chyn ysgrifennu?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda?i gilydd cyn, ac yn ystod, y seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y traethodau yn cael eu dychwelyd mewn cyfweliadau traethawd a nodir camgymeriadau yngl?n ag arddull a chynnwys. Anogir y myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifenedig a?u sgiliau cyfathrebu. Ni asesir y fedr hon. |
Rhifedd | Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau ynglyn a mudo, newid demograffig a datblygiad daearyddol trefi. Asesir y gallu i ddefnyddio?r wybodaeth yma mewn ffordd priodol fel rhan o?r traethodau lle mae?n addas. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu gallu?r myfyrwyr i gasglu tystiolaeth hanesyddol o ystod y ffynonellau, a?i gymhathu i ddadleuon craff o fewn cyd-destun syniadaethol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir hyn trwy?r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i?w ddefnyddio mewn ffordd addas. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni fydd asesu ffurfiol o?r sgiliau hyn. |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydAndy Croll (2000) Civilizing the Urban Chwilio Primo Asa Briggs (1963) Victorian Cities Chwilio Primo C. Williams (1998) Capitalism, Community and Conflict Chwilio Primo D. J. V. Jones (1992) Crime in 19th Century Wales Chwilio Primo Derek Fraser (1990) Cities, Class and Communication Chwilio Primo Dyos and Wolff (1973) The Victorian City 2 gyf. Chwilio Primo G. A. Williams (1978) The Merthyr Rising Chwilio Primo Harold Carter (1965) The Towns of Wales Chwilio Primo Ieuan G. Jones (1987) Communities Chwilio Primo John Davies (1980) Cardiff and the Marquesses of Bute Chwilio Primo M. J. Fisk (1996) Housing in the Rhondda Chwilio Primo Martin Daunton (1977) Coal Metropolis. Cardiff 1870-1914 Chwilio Primo P. Ellis Jones (1983) Bangor: 1883-1983 Chwilio Primo P. Lord (1998) The Visual Culture of Wales: Industrial Society Chwilio Primo P. O?Leary (2000) Immigration and Integration: the Irish in Wales Chwilio Primo R. Williams (1973) The Country and the City Chwilio Primo W. E. Minchinton (1969) Industrial South Wales Chwilio Primo (2001-2) The Cambridge Urban History of Britain, cyfrolau 2 a 3 Chwilio Primo Chylchgrawn Hanes Cymru Chwilio Primo Journal of Hisorical Geography Chwilio Primo Llafur Chwilio Primo Urban History Chwilio Primo Urban History Yearbook Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6