Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr | 60% |
Asesiad Semester | 2 traethawd o 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
a. Adolygu'r feirniadol y corff o wybodaeth hanesyddol sy'r ymwneud a hamdden a diwylliant poblogaidd;
b. Amgyffred y problemau hanesyddol sy'r ymwneud ag astudiaethau ar hamdden a'r dosbarth gweithiol diwydiannol;
c. Amgyffred y gwahanol ddadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw;
ch. Gosod profiad cymru o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd;
d. Darllen, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth wreiddiol;
dd. Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol;
e. Darganfod a defnyddio ffynonellau hanesyddol;
f. Gweithio'r annibynnol ac mewn cydweithrediad ac eraill, ac i gymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr'r.
Disgrifiad cryno
Y mae'r modiwl hwn yn cychwyn trwy olrhain twf hamdden yn ystod ail hanner Oes Fictoria, gan astudio datblygiad trefi glan mor a threfi gwyliau eraill. Astudir ffuriau o hamdden y dosbarth gweithiol, er enghraifft tafarndai, cerddoriaeth a chwaraeon. Hefyd astudir ymateb y dosbarth canol a'r awdurdodau i'r ffurfiau newydd o ddiwylliant poblogaidd, a'r ymgeisiau i ddarparu ffyrdd mwy llesol a moesol o hamddena, gan gynnwys llyfrgelloedd a pharciau cyhoeddus. Bydd y cwrs yn olrhain newidiadau yn hamdden a diwylliant cyhoeddus yng nghyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif, gan dalu sylw arbennig i dwf y sinema, ac I'r cysylltiad rhwng chwaraeon a hunaniaeth genedlaethol. Bydd y cwrs yn gosod profiad unigryw Cymru o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6