Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | 88 awr labordy (22 dosbarth labordy o 4 awr yr un) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Gwaith Cwrs: Adroddiad Ffurfiol, Dyddiad cyflwyno: Wythnos 11 | 50% |
Asesiad Semester | Aseiniadau Fortran | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar | 20% |
Asesiad Semester | Gwaith Cwrs: Dyddiadur Labordy | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 3 Awr Fel a bennir gan Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
• cynllunio a gweithredu arbrawf gydag ond mewnbwn bychan iawn gan staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau a ddatblygwyd mewn modiwlau blaenorol
Disgrifiad cryno
Dygir arbrofion mewn ffiseg fodern at sylw'r myfyrwyr. Bydd y myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â'r offer a data a gasglwyd o arbrofion sy'n mynd rhagddynt. Ffocws y modiwl yw datblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrofion, a bod yn ymwybodol o'r llyfryddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion. Mewn cyferbyniad â gwaith labordy blwyddyn gyntaf, mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn pontio rhwng gwaith rhan 1 a'r prosiectau blwyddyn olaf a gyfeirir gan ymchwil. Nid oes datrysiad rhwydd i'r arbrofion, a bydd yn rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu'r canlyniadau. Disgwyli'r i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir yr arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn ganolog i'r modiwl hwn. Disgwylir i raddedigion ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n rhagflaenu y prosiectau blwyddyn olaf a gwnaiff roi profiad i'r myfyrwyr o awyrgylch ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan angenrheidiol o ddatblygiad gyrfa myfyriwr.
Nod
Nod y modiwl yw datblygu'r sgiliau dadansoddi ac arbrofi sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithredu arbrofion ffiseg ar safon uwch. Yn neilltuol bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o offer, dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn ogystal â chyfathrebu a gwerthuso beirniadol o'r canlyniadau arbrofol.
Cynnwys
Bydd angen i'r myfyrwyr gyflawni dau arbrawf yn ystod y semester. Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump a bydd angen iddynt ymchwilio i gefndir yr arbrawf, archwilio yr offer sydd ar gael ac yna datblygu strategaeth a dadansoddi canlyniadau'r arbrofion. Caiff y modiwl ei asesu mewn dwy ffordd: yn gyntaf bydd y grŵp yn rhoi cyflwyniad llafar ar yr arbrawf, yn ail ysgrifennir adroddiad ffurfiol. Cyflwyniad gan yr unigolyn fydd hwn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar yr arbrofion. Cydran bwysig yw'r cyflwyniad grŵp o'r canlyniadau arbrofion i gynulleidfa o gyd fyfyrwyr. Bydd hyn yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar yn ogystal ag ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Disgwylir i raddedigion ffiseg i fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set yma o sgiliau. Mae'n rhagflaenu y prosiectau blwyddyn olaf, a gwnaiff roi profiad i'r myfyrwyr o ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan angenrheidiol o ddatblygu gyrfa myfyriwr. |
Datrys Problemau | Mewn cyferbyniad â'r gwaith labordy blwyddyn gyntaf, mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn pontio rhwng gwaith rhan 1 a'r prosiectau blwyddyn olaf a gyfeirir gan ymchwil. Nid oes datrysiad rhwydd i'r arbrofion, a bydd yn rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu'r canlyniadau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 4 i 5. Disgwyli'r i'r myfyrwyr ymchwilio ac ymgymryd arbrofion gyda chymorth staff. Y cymhelliant fodd bynnag yw i'r myfyrwyr gyfeirio'r arbrofion ac i weithio fel tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ddim yn berthnasol |
Rhifedd | Yn anhepgor i gwrs Ffiseg |
Sgiliau pwnc penodol | Dygir arbrofion mewn ffiseg fodern at sylw'r myfyrwyr. Bydd y myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â'r offer a data a gasglwyd o arbrofion sy'n mynd rhagddynt. Ffocws y modiwl yw datblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrofion bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar perthnasol i'r arbrofion. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir yr arbrofion gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a'r llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn rhan ganolog o'r modiwl hwn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5