Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 18 x 1 awr | 
| Seminarau / Tiwtorialau | Seminarau 10 x 1 awr | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 3 Awr | 60% | 
| Asesiad Semester | 2 traethawd o 2,500 o eiriau | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Ar ôl cwblhau¿r modiwl hwn, dylai¿r myfyrwyr allu:
 a) Dangos eu bod yn gyfarwydd â chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol am ddatblygiadau yng nghymdeithas Cymru yn y cyfnod 1868-1950
 b) Meddwl yn feirniadol am y cysylltiadau rhwng y newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol ac arferion cymdeithasol ehangach, a¿r hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol newydd a grëwyd. 
 c) Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol sy¿n berthnasol i hanes cymdeithasol y Gymru fodern 
 ch) Hel eitemau priodol o dystiolaeth hanesyddol, a¿u pwyso a¿u mesur
 d) Darllen testunau eilaidd, a¿u dadansoddi a meddwl amdanynt yn feirniadol
 dd) Datblygu¿r gallu i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol, a¿u herio lle bo angen.
 e) Datblygu sgiliau ar lafar (heb eu hasesu) a sgiliau ysgrifennu a fydd yn gwella drwy drafodaethau seminarau a thrwy ysgrifennu traethodau
 f) Gweithio¿n annibynnol ac ar y cyd, a chyfrannu at drafodaethau gr¿p (heb eu hasesu).
 
 
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw olrhain y prif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru oddi ar 1868. Ymhlith y themau a drafodir fydd goruchafiaeth a dirywiad y Gymru ymneilltuol Ryddfrydol; effaith dau Ryfel Byd ar y gymdeithas a'r newidiadau a achoswyd gan y Dirgwasgiad rhwng y rhyfeloedd; goruchafiaeth y Blaid Lafur ac ail-lunio'r economi oddi ar 1945.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
