Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 Hours. (18 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | traethawd 2,500 o eiriau | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr arholiad 2 awr Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:
- asesu'n feirniadol ddefnyddioldeb y term y Trydydd Byd
- egluro rhai o'r ffyrdd y mae cysylltiadau Gogledd-De yn cael effaith ar faterion y Trydydd Byd
- amlinellu a dadansoddi amryfal effeithiau gwladychiaeth
- esbonio rhai o'r sialensiau gwleidyddol ac economaidd allweddol sy'n wynebu cymdeithasau'r Trydydd Byd
- trafod yn feirniadol ystyr datblygiad ac egluro rhai sialensiau datblygu cyfoes
- trafod yn feirniadol ystyr diogelwch yn y Trydydd Byd ac egluro rhai sialensiau diogelwch
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.
10 credydau ECTS
Disgrifiad cryno
Nod
Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i rai o'r materion a'r dadleuon allweddol sy'n ymwneud a safle'r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, a dangos sut y mae gwledydd y Trydydd Byd yn cael eu ffurfio gan eu rhyngweithiad a'r gyfundrefn ryngwladol ac i'r gwrthwyneb
Cynnwys
Darlithiau
A. Cyflwyniad
1. Beth yw'r Trydydd Byd?
B. Trefedigaethu a'i Waddol
2. America Ladin
3. Affrica
4. Y Tlysau yn y Goron/Dechrau'r Diwedd
C. Pynciau yng Ngwleidyddiaeth y Trydydd Byd
5. Gwladwriaeth y Trydydd Byd
6. Y Milwr sydd Bellach yn Wleidydd
7. Yr Alwad am Ddemocratiaeth
Ch. Materion Datblygu yn y Trydydd Byd
8. Beth yw Datblygiad?
9. Eisiau Bwyd a Newyn
10. Rhywedd a Datblygiad
11. Datblygiad a'r Amgylchedd
D. Materion Economaidd yn y Trydydd Byd
12. Yr Argyfwng Dyled
13. Addasu Strwythurol
14. Gwyrth Dwyrain Asia: Y Gwledydd Newydd eu Diwydianeiddio
Dd. Materion Diogelwch yn y Trydydd Byd
15. Beth yw Diogelwch ac at Bwy y mae wedi'r Anelu?
16. Amlhau Arfau Bychain
17. AIDS/HIV fel Bygythiad i Ddiogelwch (?)
E. Diweddglo
18. Ble Mae'r Trydydd Byd Erbyn Hyn?
Sgiliau trosglwyddadwy
Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd sylfaenol a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4