Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 darlith awr (cyfrwng Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 seminar awr (cyfrwng Cymraeg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Perfformiad Seminar | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad seminar (1,000 o eiriau) | 10% |
Asesiad Semester | Adroddiad ar wlad (2,000 o eiriau) | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad dwy awr (wedi ei weld o flaen llaw) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Gall myfyrwyr gael y cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn os bydd y Gyfadran yn cytuno. Am fwy o wybodaeth, cysyllter a Gweinyddydd Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Gwerthuso'n feirniadol y materion gwleidyddol amlycaf ar hyd a lled rhanbarth America Ladin heddiw.
2. Trafod y sefyllfa wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd mewn nifer o wledydd America Ladin.
3 Dadansoddi effaith ffenomenau niweidiol megis tlodi a llygredd ar iechyd gwleidyddol
4. Asesu effaith gweithredwyr gwleidyddol newydd yn y rhanbarth
5. Gwerthuso rol ac arwyddocad ffenomenau rhyngwladol megis cyffuriau a'r amgylchedd.
6. Tafod y rhagolygon ar gyfer datblygiad gwleidyddol y dyfodol yn y rhanbarth.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at ddarpariaeth yr Adran ym maes Gwleidyddiaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac America Ladin. Bydd yn cyflwyno rhai o bynciau pwysig gwleidyddiaeth America Ladin dros y deng mlynedd diwethaf. Bydd hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i'r materion cyfoes y clywir amdanynt yn y newyddion a lleoli'r tueddiadau hynny o fewn cyd-destun hanesyddol rhanbarthol a diweddar.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn dechrau trwy gyflwyno gwleidyddiaeth, economeg a chymdeithas America Ladin cyn mynd ymlaen i archwilio nifer o faterion cyfoes pwysig ym ymwneud a thlodi, hawliau dynol, llygredd, y chwith gwleidyddol, mudiadau brodorol, cyffuriau a'r amgylchedd.
Cynnwys
2. Deall America Ladin - gwleidyddiaeth, economeg, cymdeithas
Seminar: Cymharu gwledydd - data cyfoes a phersonoliaethau allweddol
3. Tlodi a neoryddfrydiaeth
4. The 'Piqueteros', clybiau cyfnewid ac argyfwng yr Ariannin yn 2000
Seminar: pam fod ffyniant mor wibiog?
5. Hawliau Dynol
6. Achos Pinochet a gwragedd Ciudd Juarez Mecsico
Seminar: llwyddo a methu wrth geisio cyfiawnder
7. Llygredd
8. Cwsmeriaeth a llygredd ym Mecsico
Seminar: sut mae llygredd yn tanseilio cymdeithas ddemocrataidd
9. Dewisiadau'r Chwith
10. Chavez yn Venezuela, Lula ym Mrasil .... a Fidel yng Nghiwba?
Seminar: a yw ton y chwith newydd yn dechrau yn America Ladin?
11. Mudiadau brodorol
12. Evo Morales yn Bolifia
Seminar: 'Indiaid' yn gweddnewid gwleidyddiaeth a'r wladwriaeth
13. Cyffuriau
14. Gwleidyddiaeth narco yn Colombia
Seminar: Problem cyffuriau pwy?
15. Dirywiad yr Amgylchedd
16. Amazonia, mudiadau anllywodraethol a Thwristiaeth Eco
Seminar: Dyfodol America Ladin a dyfodol y blaned
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol (er mai dim ond y gwaith ysgrifenedig a gaiff ei asesu). Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu ac wrth siarad a dysgu bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yn unig yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Bydd y modiwl yn profi hefyd sgiliau cyfathrebu clywedol a llafar gan ei fod yn asesu cyflwyniad a pherfformiad seminar. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i hogi a phrofi sgiliau a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ei bywydau gwaith, yn arbennig rhoi cyflwyniadau, gwrando, meddwl ac ymateb i gyflwyniadau llafar. Mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu cyflwyniad sy'n dasg gyffredin yn gweithle. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried pa wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno adroddiad a pharatoi at gyflwyniad seminar yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau fod gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben ei hun yn cael ei asesu. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn y seminarau a bydd y cydlynydd yn eu hannog i weithio mewn timoedd tu allan i'r seminarau hefyd. Defnyddir adnoddau Blackboard megis y bwrdd trafod hefyd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Rhaid cwblhau cyflwyniad seminar a chyflwyno gwaith cwrs ar amser, a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. Disgwylir i fyfyrwyr ystyried eu perfformiad eu hunain mewn seminarau (cryfderau a gwendidau allweddol o'u cymharu a meini prawf cyhoeddedig) mewn ffurf fydd yn cael eu atodi i fersiwn ysgrifenedig y cyflwyniad seminar. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd holl elfennau'r gwaith asesedig yn gofyn am sgiliau ymchwil annibynnol. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r We yn ogystal a thestunau academaidd mwy traddodiadol. Yn rhannol asesir myfyrwyr ar eu gallu i gasglu deunyddiau ac adnoddau addas a diddorol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6