Negeseuon diweddaraf o flog yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

    Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol:  Cyhoeddi Siaradwyr Gwadd: Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks

    Yn dilyn cyhoeddi prif siaradwr ein cynhadledd, rydym yn falch o gadarnhau ein siaradwyr gwadd nesaf. Ddydd Mawrth 8 Gorffennaf, bydd yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks o Brifysgol Caerwysg yn ymuno â ni i arddangos eu gwaith arloesol ym maes symudedd cymdeithasol yn Ne Orllewin Lloegr. Mae’r cyfnod archebu ar […]

    Deunyddiau ar gael: Cynhadledd Fer: Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol

    Ddydd Mawrth 8 Ebrill, fe wnaethom gyd-gynnal ein Cynhadledd Fer ddiweddaraf gyda chydweithwyr o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Fe wnaethom groesawu 50 o fynychwyr o bob rhan o’r Brifysgol a chawsom 5 sesiwn. Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe. Dechreuodd y gynhadledd gyda chroeso gan yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor […]

    Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 9/4/2025

    Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod […]

    Creu Cyrsiau Blackboard 2025-26

    Byddwn yn creu’r cyrsiau Blackboard gwag newydd ar gyfer 2025-26 ddydd Llun 2 Mehefin 2025. Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi. […]

    Beth sy’n Newydd yn Blackboard Ebrill 2025 

    Yn y diweddariad ym mis Ebrill, rydym yn arbennig o gyffrous am nodwedd newydd o’r enw Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu. Mae hi bellach yn bosibl argraffu Dogfennau Blackboard, a diweddariadau i’r llif gwaith graddio ac adborth ar gyfer staff a myfyrwyr. Newydd: Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu Mae’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu newydd yn gadwrfa sefydliadol sydd wedi’i chynllunio […]

    Newidiadau i Rolau Cwrs Blackboard

    Dros y misoedd nesaf, rydym yn gwneud y newidiadau canlynol i rolau cwrs Blackboard.   Ni fydd Darlithydd Ychwanegol a Thiwtor Ychwanegol ar gael mwyach (o fis Mehefin 2025). Dylid ychwanegu staff addysgu gan ddefnyddio’r rôl fwyaf priodol trwy Rheoli Modiwlau (a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i Blackboard o fewn awr). Bydd unrhyw un sydd […]

    Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 1/4/2025

    Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod […]

    Mân newid:  Peiriannau’r Ystafelloedd Dysgu

    Mae problem wedi codi â’r system recordio Panopto sydd wedi effeithio ar y ffolderi sydd gan rai pobl i recordio ynddynt. Credwn ein bod wedi dod o hyd i ateb i’r broblem erbyn hyn, ac rydym wedi’i brofi mewn nifer o ystafelloedd. Rydym bellach wrthi’n addasu’r peiriannau ym mhob ystafell ddysgu er mwyn datrys y […]

    Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi’r Prif Siaradwr

    Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni. Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor.  Bydd Dr Neil Currant yn ymuno â ni ar gyfer prif gyflwyniad wyneb-yn-wyneb a gweithdy dosbarth meistr ar ail ddiwrnod y gynhadledd, ddydd Mercher 9 Gorffennaf. Bydd Neil yn […]

    Diweddariad Vevox: Mawrth 2025

    Mae rhai nodweddion newydd ar gael yn y diweddariad Vevox (Adnodd Pleidleisio) yr hoffem dynnu eich sylw atynt. I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir defnyddio’r feddalwedd bleidleisio i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr ac er mwyn iddynt ymateb ar y pryd gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio […]