Cwrs Haf Dwys
Eleni ein bwriad yw cynnal Cwrs Haf Dwys 2025 (4 wythnos) o Orffennaf hyd at Awst. Bydd dosbarth ar gael ar bob lefel gan gynnwys Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch 1, Uwch 2, Uwch 3 a dosbarth Cymraeg Proffesiynol (yn ystod wythnos 1).
Mae modd i chi gwblhau lefel gyfan os dych chi'n mynychu am 4 wythnos. Byddwch yn cwblhau hanner lefel mewn 2 wythnos.
£50 yw'r pris am gwrs un (Cwrs Cymraeg Proffesiynol), 2 neu 4 wythnos.