Amdanom Ni
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad yr Arglwydd Milford ar Gampws Gogerddan yn Aberystwyth.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei benodi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu pob cwrs Cymraeg i Oedolion ym Mhowys a Cheredigion.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau dwys (4 awr yr wythnos neu fwy) yn Sir Gâr. Cyngor Sir Gâr sydd hefyd yn darparu yn Sir Gâr.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gorff newydd sy'n gyfrifol am bob agwedd ar y maes Cymraeg i Oedolion. Mae'n gweithredu fel corff hyd braich oddi wrth y Llywodraeth ac mae ganddi weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.
Bydd y Ganolfan yn:
- sefydliad gweledol sy'n gosod cyfeiriad strategol cenedlaethol i'r maes Cymraeg i Oedolion
- cynnig arweiniad i ddarparwyr Cymraeg i Oedolion
- codi safonau addysgu a dysgu Cymraeg i Oedolion
- datblygu cwricwlwm cenedlaethol difyr, priodol ac o safon a chynhyrchu adnoddau sy'n addas i bob mathau o ddysgwyr.