Diogelwch cyfrifiaduron
Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau nad yw eich cyfrifiadur yn derbyn ymosodiadau firws, neu’n cael eu hacio neu’u camddefnyddio gan drydydd person.
Mae unrhyw gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol sydd â firws neu sydd wedi cael eu camddefnyddio mewn unrhyw ffordd yn cael eu datgysylltu’n awtomatig.
Mae’n rhaid i chi:
- gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifiadur personol / gliniadur neu ddyfais symudol yn rhedeg system weithredu gyfredol, sy'n dal i gael ei chefnogi gan y gwerthwr
- Osod Diogelwch Gwrth-firws
- trowch eich wal dân ymlaen (Windows / Mac)
- mewngofnodwch i'ch dyfais gydag enw defnyddiwr/cyfrinair neu PIN, a ddefnyddir gennych chi yn unig. (Windows / Mac)
Rhaid i chi beidio â defnyddio cyfrif gyda breintiau gweinyddwr i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd. - Osod eich cyfrifiadur fel ei fod yn cloi pan nad ydych yn ei ddefnyddio
- Sicrhau na all pobl eraill gael mynediad i’ch ffolderi
- Wneud copïau wrth gefn o’ch ffeiliau
- Sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda pholisi defnydd derbyniol JANET
Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2022 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Awst 2023.