Iaith Gynhwysol Yn Natganiad Metadata y Llyfrgell

Ein hymrwymiad

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ymrwymo i'r gwaith parhaus o ddiweddaru ein harferion metadata (ein defnydd o ddata i ddisgrifio adnoddau’r llyfrgell) i adlewyrchu gwerthoedd amrywioldeb, tegwch, cynhwysiant a hygyrchedd Prifysgol Aberystwyth.  Mae'r ymrwymiad hwn hefyd yn cynnwys ein gofynion i gyflenwyr metadata trydydd parti.

Ein cydnabyddiaeth

Er ein bod yn ymdrechu i fod mor ofalus â phosibl wrth ddefnyddio disgrifiadau o’n hadnoddau, rydym yn cydnabod bod arferion disgrifiadol blaenorol a chonfensiynau metadata hen ffasiwn weithiau'n cynhyrchu iaith a gwybodaeth nad ydynt yn hanesyddol gywir neu sy'n dramgwyddus neu'n wahaniaethol.

Rydym hefyd yn cydnabod y gall y telerau a’r disgrifiadau a ddefnyddiwn heddiw, brofi yn amhriodol neu'n niweidiol yn y dyfodol a bydd angen eu diweddaru.

Cyd-destun metadata ein llyfrgell

Gall iaith niweidiol fod yn bresennol yn y catalog, Primo, fel gwaddol o arfer yn y gorffennol, neu am nad yw wedi'i ddiweddaru tra bod ystyron a chyd-destun wedi newid dros amser. 

Er ein bod heddiw yn creu ein data llyfryddiaethol ein hunain, yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn ei fewnforio o sawl ffynhonnell, megis cyhoeddwyr a chyflenwyr ac o lyfrgelloedd eraill trwy law casglwyr cenedlaethol a byd-eang megis Canolfan Llyfrgelloedd y DU a Worldcat. 

Mae llyfrgelloedd wedi ymrwymo i ddefnyddio iaith gyfoes a geirfaoedd rheoledig (gweler y Cod Moeseg Catalogio, isod).  Gall terminoleg a gynhyrchir ar y cyd fod yn araf i newid, ond rydym yn gweithio gyda chyflenwyr ein system i sicrhau, pan fo newid, bod ein hiaith yn cael ei diweddaru yng nghatalog y llyfrgell, Primo.

Weithiau, fodd bynnag, mae safonau'n ei gwneud yn ofynnol i ni ddefnyddio iaith sydd wedi'i thrawsgrifio o'r adnodd ei hun.  Yn yr achosion hyn, nid yw geiriau a allai fod yn niweidiol yn cael eu sensro oherwydd eu bod yn rhoi cyd-destun hanesyddol i ddeall y cyfnod a'r lle a safbwynt y rhai a’u creodd a'u cyhoeddi. 

Sut i roi gwybod am iaith anghywir, niweidiol neu sarhaus yng nghatalog y llyfrgell

Rydym yn croesawu eich cwestiynau a'ch adborth waeth beth yw'r rheswm dros bresenoldeb iaith niweidiol neu sarhaus yng nghatalog y llyfrgell.  Mae gennym ddisgrifiadau llyfryddiaethol ar gyfer dros 1.2 miliwn o adnoddau yng nghatalog y llyfrgell, Primo.  Mae angen eich help arnom i gadw golwg ar y data rydym wedi ei etifeddu a'r nifer helaeth o ddata sy'n disgrifio'r adnoddau electronig yr ydym yn tanysgrifio iddynt.

Efallai y byddwn yn gallu newid iaith broblemus yn y cofnodion hyn.  Os ydych chi'n dod ar draws iaith niweidiol, cysylltwch â resourcediscovery@aber.ac.uk.  Byddwn yn ymateb i'ch adborth ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau a gymerwn i ddiweddaru'r iaith. 

Drafftiwyd:  Awst 2024

Datblygwyd y datganiad hwn gan y tîm Darganfod Adnoddau gyda chefnogaeth y Grŵp Defnyddwyr Systemau Llyfrgell a Grŵp Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant y Gwasanaethau Gwybodaeth.  Fe'i haddaswyd o nifer o ddatganiadau wedi eu rhannu yn hael ac a gafwyd trwy Arferion Metadata Moesegol a Chynhwysol SILS sy’n rhan o Dîm Prosiect Chwilio Llyfrgell Prifysgol California (EIMP).

https://uc-sils.atlassian.net/wiki/spaces/EIMPPT/pages/2454224897/Recommendations+and+Guidance+for+Creating+an+Inclusive+Language+in+Library+Metadata+Statement  

Eich adborth

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth/Darganfod Adnoddau yn croesawu eich syniadau a'ch awgrymiadau ar ein dull o ymdrin ag iaith niweidiol yng nghatalog y llyfrgell.  Anfonwch e-bost atom ar resourcediscovery@aber.ac.uk 

Gwaith darllen pellach

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Prifysgol Aberystwyth: https://www.aber.ac.uk/cy/equality/plans/ 

Cod Moeseg catalogio (diweddarwyd 2024): https://sites.google.com/view/cataloging-ethics/home