Cylch Gorchwyl Cynrychiolwyr Llyfrgell yr Adrannau

Mae swyddogaeth hanfodol gan gynrychiolwyr llyfrgell yr adrannau wrth gyfathrebu rhwng y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) ac adrannau Academaidd. Maen nhw’n fan cyswllt cyntaf ar faterion sy’n ymwneud â datblygu a chaffael adnoddau a hyfforddiant sgiliau gwybodaeth, academaidd a digidol yn yr adran. Mae GG yn gofyn i bob adran enwebu aelod staff i fod yn gyswllt rhwng yr adran a’r llyfrgell. Mae dyletswyddau penodol y cynrychiolwyr hyn yn amrywio o adran i adran, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys y canlynol:

Cyfathrebu  

1. Bod yn brif bwynt cyswllt rhwng yr adran a’r llyfrgell
2. Trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn â’r llyfrgell i staff a myfyrwyr yn yr adran a vice versa, neu argymell rhywun arall i wneud hynny fel y bo’n briodol
3. Rhoi gwybodaeth i gydweithwyr newydd ar faterion sy’n berthnasol i’r llyfrgell, a threfnu cyflwyniad i’r llyfrgellydd pwnc yn y Tîm Ymgysylltu Academaidd
4. Cyfarfod yn rheolaidd â’r llyfrgellydd pwnc i gwrdd ag anghenion yr Adran o ran gwasanaeth llyfrgell a gwybodaeth yn y ffordd orau. 

Datblygu Casgliadau

5. Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am gronfa lyfrau ddewisol yr adran a sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno’n amserol ar gyfer bob blwyddyn academaidd
6. Cadw cyswllt â’r llyfrgell er mwyn datblygu’r casgliad yn effeithiol ar lefel ddisgyblaethol
7. Cydlynu’r adolygiad blynyddol o danysgrifiadau’r adran i gyfnodolion a chronfeydd-data
8. Ar y cyd â’r Pennaeth Adran, bod yn gyswllt ynghylch ceisiadau newydd am gyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth eraill rheolaidd

Hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth, sgiliau academaidd a digidol

9. Sicrhau bod yr holl fyfyrwyr newydd yn ymwybodol o’r teithiau cynefino / gweithgareddau cynefino eraill yn y llyfrgell a’u bod yn mynd iddynt
10. Gweithio gyda staff academaidd a staff y llyfrgell i ymgorffori hyfforddiant Llythrennedd Gwybodaeth o fewn i faes llafur yn yr adran
11. Hyrwyddo datblygu Llythrennedd Gwybodaeth, sgiliau academaidd a digidol yn yr adran
12. Trefnu cwrs gloywi blynyddol ynglŷn â’r llyfrgell fel bod staff yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i’r gwasanaethau a’r adnoddau

Bodlonrwydd myfyrwyr

13. Sicrhau bod y Llyfrgellydd Pwnc yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr yr adran i fonitro bodlonrwydd y myfyrwyr â gwasanaethau ac adnoddau'r llyfrgell. Bydd Cynrychiolydd y Llyfrgell yn gweithio gyda'r Llyfrgellydd Pwnc i fynd i'r afael â materion unigol a godir gan fyfyrwyr 
14. Helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau’r llyfrgell a phrofiad dysgu'r myfyrwyr drwy gyflwyno barn a sylwadau’r adran i'r Llyfrgellydd Pwnc.
15. Cadw golwg gyffredinol a chysylltu â’r llyfrgellydd pwnc ynghylch camau a gymerir yn deillio o weithgorau a arweinir gan fyfyrwyr yn yr adrannau.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Hydref 2024 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Hydref 2026.