Polisi Cipio Darlithoedd

Mae’r rhestr ganlynol yn darparu diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y polisi hwn:

  • Darlith: Sesiwn addysgu ar yr amserlen sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr.
  • Darlithydd: aelod neu aelodau o staff PA yn cyflwyno darlith a chreu recordiad
  • Modiwl: term PA ar gyfer cwrs ac iddo werth credydol.
  • Safle modiwlau Blackboard: ardal yn Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard sy’n cyfateb i fodiwl a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Recordiadau: ffeiliau digidol sy’n cynnwys sain o leiaf a deunyddiau gweledol tafluniedig.

1.    Cyflwyniad

1.1 Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn disgwyl bod pob darlith yn cael ei recordio ac ar gael i fyfyrwyr drwy Rith-amgylchedd Dysgu Blackboard. Gweler adran 2 isod ar gyfer y diffiniad o ddarlith.

1.2 Dylid recordio sain y ddarlith o leiaf. Os yw darlithwyr yn defnyddio PowerPoint neu ddeunyddiau tafluniedig eraill, dylid gwneud yn sicr hefyd fod modd gweld y sgrin. Gweler Adran 4 am ragor o fanylion am yr hyn y dylid ei recordio.

1.3 Darperir meddalwedd Panopto yn ganolog er mwyn sicrhau recordio hwylus yn y ddarlith ac mae’n gydnaws â Blackboard er mwyn helpu i reoli’r defnydd o recordiadau.

1.4 Mae PA yn ystyried recordiadau cipio darlithoedd yn ‘addasiad rhesymol’ ar gyfer myfyrwyr a fyddai, cyn y newidiadau i’r rheolau cyllido, wedi cael cymorth rhywun i gymryd nodiadau.

1.5 Bydd y polisi hwn ar gael ar wefan y Gwasanaethau Gwybodaeth a chyfeirir ato yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.

 

2.    Diffinio darlith

2.1.   Mae PA yn diffinio darlith fel trosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr. Nid oes yn rhaid felly recordio:

  • elfennau rhyngweithiol sesiwn dysgu, megis trafodaethau myfyrwyr neu sesiynau holi ac ateb;
  • seminarau, dosbarthiadau tiwtorial neu weithdai.

2.2 Mae’r Brifysgol yn cydnabod:

  • nad yw pob dull dysgu yn addas i’w gipio, e.e., os ceir llawer iawn o ryngweithio â’r gynulleidfa;
  • bod staff yn cael eu hannog i ddefnyddio’u hoff ddull dysgu; nid oes disgwyl iddynt newid eu dull dysgu ar gyfer recordio gan y gall gwneud hynny amharu ar brofiad y myfyrwyr;
  • bod materion moesegol, neu ddefnyddio deunyddiau sensitif yn golygu y bydd recordio rhai gweithgareddau dysgu ac addysgu yn amhriodol;
  • bod PA yn ymrwymo i ymchwilio i ffyrdd o gipio pob dull dysgu, a’u rhoi ar waith.

2.3 Dylai darlithwyr sy’n arwain sesiynau nad oes yn rhaid iddynt gael eu recordio sicrhau bod y myfyrwyr yn cael mynediad at yr holl ddeunyddiau dysgu perthnasol; megis sleidiau PowerPoint, taflenni, a deunydd ategol eraill. Dylai’r rhain fod ar gael i fyfyrwyr yn Blackboard.

2.4 Dylai myfyrwyr nodi nad yw PA yn ystyried bod defnyddio recordiadau cipio darlithoedd yn disodli presenoldeb mewn darlithoedd. Darperir recordiadau o’r darlithoedd er mwyn cyfoethogi profiad dysgu’r myfyriwr yn hytrach na disodli’r angen i fod yn bresennol.

 

3.    Defnyddio eich Data

3.1 Mae PA yn defnyddio gosodiad cwmwl o Panopto. Mae hyn yn golygu bod rhywfaint o wybodaeth am staff a myfyrwyr yn cael ei anfon at Panopto. Mae’r data yn cynnwys enw, cyfeiriad e-bost a chofrestriadau ar safle modiwlau Blackboard, yn ogystal â recordiadau, sleidiau a gwybodaeth am weithgarwch y defnyddiwr. Cedwir y wybodaeth yma yng ngogledd Iwerddon. Mae  Polisïau Preifatrwydd Panopto yn trafod y wybodaeth sy’n cael ei chasglu, pwy all ei gweld a sut mae Panopto yn ei defnyddio.

3.2 Gall data a gynhyrchir drwy ddefnyddio Panopto hefyd gael ei ddefnyddio gan staff PA fel rhan o wasanaeth Dadansoddi Dysgu PA. Ceir gwybodaeth am Ddadansoddi Dysgu yma https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/ 

 

4.    Creu a Golygu Recordiadau

4.1 Mae meddalwedd Panopto ar holl beiriannau dysgu PA er mwyn recordio sain, sgrin a fideo mewn ystafell ddysgu. Dylid recordio sain y ddarlith o leiaf. Os yw darlithwyr yn defnyddio PowerPoint neu ddeunyddiau tafluniedig eraill, dylent gwneud yn sicr hefyd fod modd gweld y sgrin.

4.2 Gall darlithwyr ddefnyddio meddalwedd arall ond dylid recordio’r un wybodaeth a restrir uchod yn 4.1. Dylai darlithwyr sy’n defnyddio meddalwedd wahanol i Panopto hefyd sicrhau eu bod yn darparu mynediad at y recordiadau drwy’r safle modiwlau perthnasol ar Blackboard.

4.3 Dylai darlithwyr hefyd sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol fod sesiwn yn cael ei recordio (er efallai yr hoffent olygu dechrau neu ddiwedd darlith os oes angen). Gellir gwneud cyhoeddiad ar lafar ar ddechrau darlith, ei gyflwyno ar sleid, neu bostio cyhoeddiad ar safle’r modiwl ar Blackboard.

4.4 Dylid holi am ganiatâd penodol siaradwyr gwadd a staff nad ydynt yn perthyn i Brifysgol Aberystwyth. Ceir ffurflen awdurdodi data ar wefan PA.

4.5  Ni ddisgwylir i ddarlithwyr olygu recordiadau cyn eu cyflwyno i fyfyrwyr. Yr unig eithriad fyddai pe bai’r recordiad yn cynnwys deunyddiau a fyddai’n torri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) neu a fyddai’n cael ei ystyried yn sensitif neu’n sarhaus. Dyma rai enghreifftiau o sefyllfa lle byddai’n rhaid golygu:

  • Recordio sgyrsiau â myfyrwyr cyn / ar ôl y ddarlith, trwy ddamwain
  • Recordio cwestiynau gan fyfyrwyr heb iddynt wybod bod recordio yn digwydd
  • Trafodaethau heb eu cynllunio all gynnwys gwybodaeth bersonol

 4.6 Dylai staff neu fyfyrwyr sydd o’r farn y dylid golygu recordiad yn sylweddol neu ei ddileu o lwyfan Panopto gysylltu â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth a fydd yn ystyried y cais.

4.7 Dylai myfyrwyr sydd â phryderon ynghylch cynnwys darlith a recordiwyd fynegi’r pryderon hyn i’w darlithydd yn y lle cyntaf.

 

5.    Defnyddio Recordiadau

5.1 Pwrpas recordiad yw helpu’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl. Fel anghenraid (ac oni newidir hyn yn benodol gan ddarlithydd) cyfyngir mynediad at recordiadau modiwl i’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl hwnnw.

5.2 1.1.   Ni ddylai staff neu fyfyrwyr â mynediad at recordiadau eu rhannu, ar unrhyw gyfrif (gan gynnwys lawrlwytho a rhannu), heb ganiatâd  y darlithydd.

5.3 Os yw’r darlithydd wedi rhoi eu caniatâd, gellir defnyddio recordiadau y tu allan i’r modiwl y maen nhw’n perthyn iddo (er enghraifft i gefnogi modiwlau sy’n cael eu dysgu ar y cyd neu ddysgu mewn sefydliadau partner).

5.4 Y darlithwyr sy’n rhannu eu recordiadau sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gosodiadau caniatâd ar gyfer gwylio’r recordiadau hyn wedi’u gosod yn gywir.

5.5 Gellir rhoi caniatâd i staff newydd sy’n dysgu modiwl wylio recordiadau o flynyddoedd blaenorol. Mae hyn at ddibenion paratoi ac ymgyfarwyddo â chynnwys y modiwl.

5.6 Dylai darlithwyr sicrhau bod dolen sy’n cysylltu â recordiad o’r ddarlith i’w gweld yn y cwrs Blackboard o fewn tri diwrnod gwaith i’r ddarlith. Dylai dolenni i recordiadau Panopto  gael eu cynnwys ochr yn ochr â’r deunyddiau/gweithgareddau dysgu perthnasol. Yn ychwanegol, gall staff hefyd greu dolen i’r ffolder Panopto (fel y gall myfyrwyr weld yr holl recordiadau mewn un lleoliad).

5.7 Os oes rhesymau pedagogaidd dros oedi cyn rhyddhau darlith (er enghraifft, mae’n rhaid gwneud gwaith golygu sylweddol, neu fod oedi oherwydd mwy nag un sesiwn dysgu), dylai’r darlithydd wneud hyn yn glir i’r myfyrwyr.

5.8 Ni fydd PA yn defnyddio recordiadau i asesu perfformiad staff nac i annog gwrandawiadau disgyblu neu gwynion. Gellir eu defnyddio, fodd bynnag (gyda chaniatâd y darlithydd) fel tystiolaeth yn y gwrandawiadau hyn.

5.9 Gall staff PA ddefnyddio recordiadau eu darlithoedd fel tystiolaeth o arfer da wrth ddysgu, er enghraifft mewn ceisiadau ar gyfer dyrchafiad, ceisiadau am gymrodoriaeth AdvanceHE, neu mewn digwyddiadau rhannu arferion da.

 

6.    Mynediad at Recordiadau

6.1 Rheolir mynediad at recordiadau ar gyfer modiwlau a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy gofrestru ar y cwrs Blackboard. Golyga hyn mai dim ond y myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar y modiwl fydd yn gallu gweld y cynnwys.

6.2 Fel anghenraid, rhaid cael enw defnyddiwr PA a chyfrinair i gael mynediad at y recordiadau a gwylio’r cynnwys

6.3  Bydd darlithwyr yn dewis y modiwl y bydd y recordiad yn ymddangos ynddo ar ddechrau’r ddarlith. Trwy ddewis y modiwl, gall yr holl fyfyrwyr a staff sydd wedi’u cofrestru ar y modiwl wylio’r cynnwys

6.4 Gall myfyrwyr wylio recordiadau’r modiwlau y’u cofrestrwyd arnynt am gyfnod o 5 mlynedd neu tan y daw eu cyfrif i ben (pa un bynnag ddaw yn gyntaf).

6.5 Gall Gweinyddwyr Panopto (yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu, a’r Tîm Cymwysiadau ac Integreiddio yn y Gwasanaethau Gwybodaeth) gael mynediad at, gwylio, a golygu’r holl recordiadau a wneir drwy Panopto.

 6.6 Mae’n bosibl y bydd cyflogeion Panopto yn gorfod gwylio recordiadau er mwyn cynnig cymorth i Brifysgol Aberystwyth; gall fod ar gyfer trwsio diffygion, adfer recordiadau sydd wedi’u dileu etc. Mae polisïau preifatrwydd Panopto yn trafod mynediad staff Panopto at ddata PA.

 

7.    Hawlfraint

7.1 Mae’r holl ddeunydd sy’n cael ei recordio mewn darlith yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth hawlfraint. Ni ddylid cynnwys deunydd trydydd parti oni bai ei fod yn golygu ‘delio teg’ (ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen Canllawiau Hawlfraint).

7.2 Ceir rhestr lawn o’r hyn y gellir ei gynnwys mewn darlith sy’n cael ei recordio ar dudalennau gwe Cydymffurfiaeth Gwybodaeth PA.

7.3 Dylai holl ddefnyddwyr recordiadau Panopto gofio na ddylid eu rhannu heb ganiatâd y darlithydd (gweler 5.2 uchod).

7.4 Dylid anfon cwestiynau ynglŷn â materion hawlfraint cipio darlithoedd at Reolwr Diogelu Data a Hawlfraint PA (infocompliance@aber.ac.uk)

  

8.    Cyfnod Cadw

8.1 Cedwir recordiadau darlithoedd am bum mlynedd. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwylio recordiadau o’r holl fodiwlau y maen nhw wedi’u dilyn yn ystod eu cwrs.

8.2 Os hoffai’r staff gael cyfnod cadw gwahanol, yn arbennig ar gyfer recordiadau nad ydynt yn ymwneud â modiwlau (e.e. cynadleddau ac ati) dylent drafod hyn â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (lteu@aber.ac.uk). Noder bod cost yn gysylltiedig â chadw recordiadau am y tymor hir. Mae’r GG yn cadw’r hawl i godi tâl am brosiectau sydd angen mynediad estynedig i recordiadau.

8.3 Gellir copïo neu symud recordiadau i’r fersiwn ddiweddaraf o fodiwl a addysgir hefyd.

9.    Asesiadau llafar

9.1 Gellir recordio asesiadau llafar drwy ddefnyddio Panopto. Os caiff asesiadau eu recordio, dylai staff greu pob recordiad mewn ffolder asesu Panopto fydd yn sicrhau mai staff ac arholwyr allanol yn unig all wylio’r recordiadau.

9.2 Dylid rhoi gwybod i’r myfyrwyr y bydd eu cyflwyniadau yn cael eu recordio a darparu gwybodaeth iddynt ynglŷn â phwy fydd yn gallu gwylio’r recordiad a sut bydd yn cael ei ddefnyddio.

9.3 Oni bydd yn bosibl i ddau farciwr mewnol fod yn bresennol yn ystod asesiad llafar, rhaid recordio’r asesiad.

 9.4 Dylid cofnodi defnydd helaeth o recordiadau ar gyfer asesiadau llafar gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth er mwyn sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael.

10. Cyflwyniadau a Recordiwyd a Panopto ar gyfer Aseiniadau

10.1 Mae’n bosibl y gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio Panopto i gyflwyno cyflwyniadau a recordiwyd neu recordiadau at ddibenion asesu drwy’r cwrs Blackboard.

10.2 Dylai darlithwyr greu Aseiniad Panopto iddi o’r ffolder Asesu ac Adborth yn y cwrs Blackboard.

10.3 Mae unrhyw recordiadau a gyflwynir i Aseiniad Panopto ar gael i Ddarlithwyr ac Arholwyr Allanol ar y cwrs. 

10.4 Bydd modd i fyfyrwyr weld y recordiadau y maent wedi’u huwchlwytho’n unig. 

10.5 Caiff y recordiadau eu cadw am bum mlynedd a’u dileu yn ôl y Cyfnod Cadw (gweler adran 8).

11.   Dewis peidio

11.1 Dylai darlithwyr y dylai eu darlithoedd gael eu recordio, ond sy’n dymuno peidio â chipio darlithoedd drafod eu pryderon â Chydgysylltydd Dysgu ac Addysgu’r adran yn y lle cyntaf.

11.2 Os yw’r Cydgysylltydd Dysgu ac Addysgu o’r farn fod ganddynt reswm dilys dros beidio, dylent gytuno ar strategaethau ar gyfer hysbysu’r myfyrwyr ar y modiwl o’r penderfyniad hwn. Dylid hefyd drefnu addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol yn ogystal â chamau gweithredu lliniarol.

11.3 Dylid cofnodi’r penderfyniad a’r camau gweithredu lliniarol gyda Phwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i drafod pryderon myfyrwyr a godir drwy systemau fel yr Arolwg o Brofiad Myfyrwyr a Rho Wybod Nawr.

12.   Hygyrchedd

12.1 Er bod recordio darlithoedd yn gwneud dysgu yn fwy hygyrch i rai dysgwyr, gall hefyd achosi problemau hygyrchedd i eraill. Dylai staff fod yn ymwybodol o anghenion eu dysgwyr, a chymryd camau priodol i sicrhau nad yw dysgwyr dan anfantais oherwydd bod darlithoedd yn cael eu recordio. Gall hyn gynnwys darparu trawsgrifiadau o fideos, neu ddefnyddio penawdau i egluro.

12.2 Mae Panopto yn cynnig gwasanaeth creu penawdau adnabod llais yn awtomatig. Mae canllaw ar ychwanegu penawdau ar gael (Cwestiwn cyffredin: Sut mae ychwanegu penawdau i recordiad Panopto) Mae ansawdd a dibynadwyedd y penawdau awtomatig yn amrywio yn ôl iaith a phwnc y recordiad. Felly, ni chaiff y gwasanaeth penawdau ei droi ymlaen yn awtomatig yn PA.

12.3 Mae’n bosibl y gall Gwasanaeth Hygyrchedd PA (accessibility@aber.ac.uk) helpu myfyrwyr i adolygu eu gofynion addasu rhesymol o ran penawdau.

13.   Recordiadau Myfyrwyr

13.1 Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i rai myfyrwyr recordio sesiynau dysgu eu hunain. Dylai’r myfyrwyr hyn hysbysu Cynghorwyr Hygyrchedd y Brifysgol o’u hanghenion penodol. Bydd hyn o help i’r Brifysgol wneud addasiadau priodol a helpu’r sefydliad i hwyluso recordio darlithoedd.

13.2 Gall darlithwyr wirio a yw dyfeisiau recordio personol yn rhan o addasiadau rhesymol myfyriwr yn y tab Addasiadau Rhesymol a Darpariaeth Arholiadau yn Aladdin.

13.3 Anogir myfyrwyr i roi gwybod i’r darlithydd y byddant yn recordio’r ddarlith gan ddefnyddio eu dyfais eu hunain os taw hwn yw eu gofyniad.

 13.4 Mae’r brifysgol yn pennu Eiddo Deallusol cynnwys darlithoedd i’r darlithwyr (er mai’r brifysgol sy’n cadw’r hawl anghyfyngedig, derfynol, ddiamod a gwastadol i ddefnyddio a chopïo’r deunyddiau hyn ar gyfer dibenion academaidd, ymchwil a gweinyddol). Mae hyn yn ffurfio rhan o’r cytundeb dysgu rhwng y myfyriwr a Phrifysgol Aberystwyth. Yn unol â 5.2 y polisi hwn, ni ddylai myfyrwyr rannu’r recordiad â neb.

  

Cefnogaeth

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i bob aelod staff ar gipio darlithoedd. Gellir dod o hyd i wybodaeth yn www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/lecture-capture/

Cyfeiriadau

Elliott, Caroline a Neal, David (2015) Evaluating the use of lecture capture using a revealed preference approach. Active Learning in Higher Education, http://eprints.hud.ac.uk/24540/

Feir et al (2013), Use of Echo360 generated materials and its impact on class attendance, 30th Ascilite Conference Proceedings, http://www.ascilite.org/conferences/sydney13/about/proceedings.pdf

Jisc (2018), Recording lectures: legal considerations, https://www.jisc.ac.uk/guides/recording-lectures-legal-considerations

King’s College London (2018), Lecture Capture and Recording Other Educational Activities Policy, https://www.kcl.ac.uk/governancezone/assets/teaching/lecture-capture-policy.pdf

Nottingham Trent University (2017), Lecture Capture Policy, http://www4.ntu.ac.uk/adq/document_uploads/teaching/195607.pdf

University of Glasgow (2018), Lecture Recording Policy, https://www.gla.ac.uk/media/media_359179_en.pdf

University of Huddersfield (2018), Lecture Capture Policy, https://www.hud.ac.uk/media/policydocuments/Lecture-Capture-Policy.pdf

University of Manchester (2015), Policy on the Recording of Lectures and other Teaching and Learning Activities, http://documents.manchester.ac.uk/display.aspx?DocID=16559

University of St Andrews (2017), Policy on the Recording of Lectures and Other Learning and Teaching Activities (“Lecture Capture”), https://www.st-andrews.ac.uk/media/proctor/documents/lecture-capture-policy.pdf

 

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mai 2024 gan Bwyllgor Gwella Academaidd a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Ionawr 2025.